Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Marchogaeth tua’r machlud ym Môn

“Rydym yn ceisio darparu ar gyfer pawb” meddai Katie Lloyd Hughes, perchennog Canolfan Farchogaeth Tal y Foel. “Mae gennym gwrs traws gwlad, gellwch fod yn “berchen” ar geffyl am y dydd, a chael dysgu bob peth angenrheidiol ar gyfer dod yn berchennog ceffyl, neu cewch y profiad hyfryd hwnnw mae marchogwyr profiadol yn ei fwynhau – marchogaeth ar hyd y traeth – pan fo’r llanw allan!”

Mae Tal y Foel, yr hen lanfa fferi rhwng Ynys Môn a Chaernarfon, ar drwyn de gorllewinol Ynys Môn, yn agos at Goedwig Niwbwrch. Mae’r ganolfan yn cynnig ei llwybr oddi ar y ffordd ei hun, yn ogystal ag arenâu hyfforddi a dysgu mewnol ac allanol.

Cafodd Katie, a gymerodd y sefydliad drosodd tua deng mlynedd yn ôl, ei geni ychydig filltiroedd i lawr y lôn. Ar ôl gorffen ei haddysg, gradd mewn rheolaeth ceffylau, daeth gartref, ac nid oes ganddi unrhyw uchelgais i adael. “Mae gen i bob peth – ceffylau, pum deg saith ohonynt, canolfan rwyf yn ymfalchïo ynddi, ac mae yn Ynys Môn.”

Mae’r ganolfan wedi ei hachredu gan y BHS, Croeso Cymru, Cymdeithas Trecio a Marchogaeth Cymru, a drws nesaf, mae’r cyn-berchnogion yn cynnig llety gwely a brecwast hyfryd.

“Byddwn yn cael twristiaid yn troi i fyny ar sbec” meddai Katie, “ac rydym yn ceisio ymdopi efo hynny, ond mae archebu ymlaen llaw yn amlwg yn well, gan fod hynny’n rhoi cyfle i ni baratoi a chynllunio. Rydym yn ofnadwy o brysur yn ystod misoedd yr haf, a gellwch archebu fesul awr, diwrnod neu wythnos. Mae’n gwneud newid o bwced a rhaw.”

Mae Ynys Môn wedi gwirioni am geffylau, gan haeru ei bod, fel Sir Benfro, gyda mwy o geffylau fesul pen o’r boblogaeth nag unman arall yn y DU. Mae tair canolfan arall, sef Canolfan Geffylau Ynys Môn ym Modedern, Porth y Post ym Mae Trearddur, ac Ysgol Farchogaeth Llanddona, ond yn y sioeau ceffylau bychain, a gynhelir ar hyd a lled yr ynys, y cewch weld y brwdfrydedd dros geffylau, yn enwedig yn Sioe’r Sir ym mis Awst. 

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2010 Cyngor Sir Ynys Môn :