Rhan 5: Moelfre – Pentraeth
Mae'r rhan hon o'r llwybr, er yn fyr, yn cynnig amrywiaeth fawr i gerddwyr. Gan gychwyn o bentref deniadol Moelfre, dilynir llwybr isel i Draeth Bychan. O'r fan hon, cewch olygfa odidog a dramatig o glogwyni cerrig calch, eto i gyd cewch eich cysgodi oherwydd y gwrychyn trwchus sy'n ffinio ar y clogwyni.
Wedi cyrraedd Benllech, mae'r llwybr yn parhau ychydig uwchlaw lefel y môr o gwmpas ymyl orllewinol Traeth Coch.