Rhan 6: Pentraeth – Biwmares
Mae'n debyg mai'r rhan hon o'r llwybr sy'n teimlo fel yr un hiraf oherwydd rhaid cerdded cryn dipyn ar hyd traethau.
Mae'r llwybr yn cychwyn ar lefel y môr gan fynd ar hyd hanner dwyreiniol Traeth Coch gan ymuno â thop y wal fôr am 500 metr.
Efallai y byddwch yn difaru nad ydych yn cerdded o'r cyfeiriad arall wrth ddringo i fyny am Fwrdd Arthur, ond cewch eich gwobrwyo'n hael gyda'r golygfeydd ar draws tir amaethyddol i Drwyn Penmon. Mae hanner olaf y daith yn dilyn y traeth a chewch olygfeydd bendigedig o'r Carneddau ar draws y Fenai.