Rhan 9: Llyn Rhos Ddu – Aberffraw
Mae'r rhan hon o'r Llwybr yn mynd â chi drwy Warchodfa Natur Genedlaethol lle gellwch fwynhau'r twyni, coedwig gonifferaidd a thraethau llydan yn arwain at yr ynys hyfryd yn Llanddwyn. Mae gweddill y daith yn gymysgedd o dir amaethyddol a thwyni gan orffen drwy ymuno gydag aber yr afon Ffraw i Aberffraw ei hun. Mae Eryri a Phen Llyn yn gefndir dramatig i'r daith.