Biwmares

Mae Biwmares yn dref glan y môr hudolus gyda’i chymysgedd o bensaernïaeth canol oesol Georgaidd, Fictoraidd ac Edwardaidd. Mae ei henw yn seiliedig ar y geiriau Normanaidd ‘beau marais’, sy’n golygu cors deg, disgrifiad o’r safle a ddewiswyd gan Edward I ar gyfer yr olaf o’i ‘gylch haearn’ o gestyll, a adeiladwyd yn ei ymgais i reoli’r Cymry.

Un peth y mae’n rhaid ei wneud yw mynd am dro trwy’r dref, gan ddechrau trwy gerdded yn hamddenol ar hyd glan y môr, i weld y pier a’r golygfeydd dros Afon Menai ac Eryri ac wedyn ymlaen trwy’r strydoedd swynol gyda’u bythynnod hardd - mae llawer ohonynt wedi eu peintio mewn lliwiau pastel meddal.

Mae Castell Biwmares yn safle Treftadaeth y Byd ac fe’i adeiladwyd rhwng 1295-1330 i ffurfio llinellau consentrig perffaith gymesur o amddiffynfeydd. Mae iddo hefyd ffos a doc a oedd yn darparu mynediad i longau cyflenwi.

Mae nifer o gaffis, tafarndai, bwytai a gwestai bywiog ym Miwmares sy’n cynnig bwyd da sy’n addas ar gyfer pob chwaeth ynghyd â masnachwyr annibynnol sy’n cadw siopau o safon ardderchog.

Meysydd parcio talu ac arddangos