MAP LLAWN +

Bywyd Gwyllt – Aberlleiniog a Llangoed

Rhyw filltir neu ddwy i’r gogledd o Fiwmares mae gwarchodfa natur goediog, hyfryd gyda chastell Normanaidd ‘cudd’ yn ei chanol.  Mae Tir Comin Llangoed a Choed  Aberlleiniog yn Warchodfa Natur Leol ac yn Safle o Ddiddordeb Cadwraeth Natur (SDCN).

Mae gan y warchodfa rwydwaith gynhwysfawr o lwybrau troed a llwybrau pren, a digon o le i barcio mewn meysydd parcio cyhoeddus yn Llangoed ac ar draeth Lleiniog.  Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd yn cynnwys coetir llydanddail, coetir wedi’i blannu o goed ifanc llydanddail, glaswelltir sy’n gyfoethog mewn blodau, dolydd gwlyb a phrysgwydd.  Mae nifer o byllau ar y safle, ac Afon Lleiniog sy’n llifo drwy’r warchodfa i’r môr yn Nhraeth Lleiniog.  Mae hen goed deri hardd ar y llethrau islaw’r castell, ac mae arddangosfa brydferth o flodau gwyllt yn y gwanwyn gan rywogaethau fel craf y geifr, briallu, clychau’r gog, suran y coed a blodau’r gwynt.  Mae’r warchodfa yn cynnal nifer o wahanol rywogaethau o adar y coetir, fel telor y coed, delor y cnau, y dringwr bach a choch y berllan.  Gwelir sgrech y coed yn aml – gallwch eu clywed yn sgrechian yn aml – ac mae’r gigfran, y bwncath, y cudyll coch a’r dylluan wen yn magu yma.  Cofnodwyd y tair rhywogaeth o gnocell y coed a welir ym Mhrydain yma.

Mae nifer o wahanol rywogaethau o ystlumod yn bresennol yng nghoetiroedd y warchodfa gan gynnwys yr ystlum mawr, yr ystlum hirglust, yr ystlum lleiaf a’r ystlum lleiaf meinllais.  Os byddwch yn ddistaw, efallai y cewch eich gwobrwyo drwy gael cip ar y wiwer goch, ac mae hefyd yn werth chwilio am arwyddion o’r dyfrgi, yn arbennig ar y clogfeini dan y bont dros yr Afon Lleiniog.  Rhai o’r mamaliaid eraill sy’n ymweld â’r warchodfa yw’r carlwm, y wenci a llyg y dŵr. 

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Ceir rhestr o doiledau sydd ar gael yny gymuned drwy Cynllun Grant Toiledau Cymru.

Pethau eraill i'w gwneud

  • Cefn Gwlad

    'Cefn Gwlad'

    'Gwybodaeth am cefn gwlad Ynys Môn.'

Atyniadau eraill

  • Bywyd Gwyllt Penmon ac Ynys Seiriol

    'Bywyd Gwyllt Penmon ac Ynys Seiriol'

    'Mae Penmon yn ffurfio man dwyreiniol Ynys Môn, gan ymwthio allan i Fae Conwy. '

  • Tirwedd Afon Menai

    'Tirwedd Afon Menai'

    'Afon Menai yw’r culfor sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Gwynedd. Cysylltir â’r tir mawr gan Bont Grog Thomas Telford a Phont Britannia Robert Stephenson. '