Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys.
Does dim yn well na threulio diwrnod yn ymlacio ar draeth!
Tair llwybr eiconig yw Ffordd Cymru sy'n mynd â chi drwy'r gorau sydd gan Cymru i'w gynnig.
Edrychwch ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol @visitanglesey er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf neu er mwyn chwilio am ddigwyddiadau, gweler isod.
Gwarchodfa Natur Leol yw Coed Cyrnol sydd yn nhref Porthaethwy. Ceir mynediad ati o’r A5 (Ffordd Mona), ac mae maes parcio talu ac arddangos wrth brif fynedfa’r warchodfa. Y prif gynefinoedd yw coetir llydanddail a phrysgwydd. Mae Ynys Tysilio - ynys fechan gydag eglwys hynafol a mynwent - i’r gorllewin o’r coetir ac fe’i cysylltir â sarn. Ar waelod y prif lwybr o’r maes parcio, mae Promenâd y Belgiaid yn dilyn llinell y lan i’r de ddwyrain, i gyfeiriad y bont grog, Pont y Borth. Mae golygfeydd trawiadol o’r fan hon o Gulfor Menai yn chwyldroi, a mynyddoedd Eryri a’r Carneddau. Ceir mynediad uniongyrchol i’r warchodfa o Lwybr Arfordirol Môn. Yn tra-arglwyddiaeth ar y coetir mae pinwydd yr Alban aeddfed, gydag is dyfiant o goed derw, ffawydd, sycamorwydden, criafolen, bedwen, collen, celynnen ac ywen ifanc.
Mae Coed Cyrnol yn cynnig llety i gasgliad cyfoethog o adar y coetir, gyda rhywogaethau preswyl sy’n cynnwys y titw penddu, y titw gynffon hir, y dringwr bach, y dylluan frech a’r gnocell fraith fwyaf. Rhai o ymwelwyr yr haf yw’r telor penddu, y siff-siaff, gwybedog mannog a thelor yr helyg. Gallwch glywed telor y coed a’r gwybedog brith yn canu yn y gwanwyn. Mae’r pila gwyrdd yn ymwelwyr cyson â’r coed pîn ac mae posibilrwydd eu bod wedi bridio ac mae’r gylfingroes wedi eu cofnodi yma. Yr ynys yng nghulfor Menai oddi ar Ynys Tysilio yw Ynys Welltog. Mae’r ynys hon yn safle bridio i wyddau gwylltion, pioden y môr a’r crëyr glas. Mae’r crëyr bach yn bridio yn yr ardal ac yn amlwg iawn gyda’i blu gwyn llachar. Mae Promenâd y Belgiaid ac Ynys Tysilio yn fannau da i weld adar môr a rhydwyr. Mae gwiwerod coch yn ymweld â’r coetir ac ambell dro gwelir y morlo llwyd yn y Culfor.
I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus
'Cerdded o amgylch Ynys Môn.'
'Gwybodaeth am cefn gwlad Ynys Môn.'
'Mwy o wybodaeth am lefydd i aros ar Ynys Môn.'
'Afon Menai yw’r culfor sy’n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Gwynedd. Cysylltir â’r tir mawr gan Bont Grog Thomas Telford a Phont Britannia Robert Stephenson. '
(DECHREUWCH DEIPIO I CHWILIO)
CHWILIWCH ODDI FEWN I