MAP LLAWN +

Bywyd Gwyllt – Coedwig a Chwningar Niwbwrch

Mae Coedwig a Chwningar Niwbwrch yn ffurfio cornel fwyaf deheuol Ynys Môn wedi eu lleoli rhwng  Afon Braint ac Afon Cefni gyda’i aber eang.  Mae’r Gwningar yn system fawr o dwyni tywod sydd wedi ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am  ei phriodweddau daearegol, botanegol, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac adaryddol.  Mae’r Gwningar (ynghyd ag Ynys Llanddwyn) hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNC) er nad yw’r goedwig wedi’i chynnwys yn y dynodiad hwn.

Mae rhwydwaith o lwybrau drwy’r goedwig, ar draws y Gwningar ac i draethau Penrhos a Llanddwyn.  Mae llwybr ar draws y tywod i Ynys Llanddwyn ond caiff yr ynys ei thorri o’r tir ar lanw uchel. Mae pedwar maes parcio i’r warchodfa a leolir ar bob un o’r prif fannau mynediad.  Mae’r aber ym Malltraeth gerllaw â chasgliad mawr o rydwyr, gyda rhydwyr bach a phrinnach yn aml yn casglu ar  Lyn y Cob a hefyd Llyn Parc Mawr yng ngogledd y goedwig. Mae’r morfa heli sy’n ffinio â’r goedwig i’r gogledd orllewin yn arbennig o dda ar gyfer y boda tinwyn, y cudyll bach ac adar ysglyfaethus eraill yn y gaeaf.  Mae’r cynefin hwn a’r  traethellau lleidiog cyfagos yn darparu mannau pwysig yn y gaeaf ar gyfer rhydwyr ac adar hela, ac yn gyson yn cynnal dros 1% o boblogaeth Ynysoedd Prydain o’r hwyaden lostfain.  Mae Ynys yr Adar ger Ynys Llanddwyn yn cynnal poblogaeth fawr o fulfrain sy’n magu.  Mae’r goedwig yn enwog am ei chlwydfan enfawr o cigfrain (cofnodwyd hyd at 2,000 o adar) ac mae rhywogaethau nodedig eraill yn cynnwys y gylfingroes a’r pila gwyrdd.  Yn yr haf clywir cân swynol yr ehedydd drwy’r goedwig.  Mae gwiwerod coch yn cartrefu yma ac mae’r safle’n adnabyddus fel un o’u cadarnleoedd.  Yn y twyni tywod mae nifer o blanhigion prin a diddorol fel tafod y gors, caldrist y twyni, tafod y neidr lleiaf a tafol y traeth.  Mae gan yr ardal boblogaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n ffynnu, sy’n cynnwys rhywogaethau prin fel y fursen fach goch a’r gwas neidr blewog yn ogystal â gwenyn turio a’r  pryf hofran prin, Eumerus sabulonum.  Mae gelod meddyginiaethol yn rhai o’r llaciau tywod  gwlyb a hyd yn oed poblogaeth o’r fadfall gribog!

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Ceir rhestr o doiledau sydd ar gael yny gymuned drwy Cynllun Grant Toiledau Cymru.

Pethau eraill i'w gwneud

  • Llwybrau beicio cefn gwlad Ynys Mon

    'Llwybrau beicio cefn gwlad Ynys Mon'

    'Mapiau a disgrifiadau o'r teithiau cefn glwad Ynys Môn. '

  • Awyr Agored ac Actif

    'Awyr Agored ac Actif'

    'Mae pob math o weithgareddau yn yr awyr agored yn Ynys Môn, mae dewis helaeth yma. '

Atyniadau eraill

  • Beicio

    'Beicio'

    'Pa ffordd well i fwynhau harddwch naturiol Ynys Môn nag ar gefn beic. '

  • Cefn Gwlad

    'Cefn Gwlad'

    'Gwybodaeth am cefn gwlad Ynys Môn.'