Bywyd Gwyllt – Parc Gwledig y Morglawdd, Caergybi

Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli o fewn milltir neu ddwy i ganol tref Caergybi, ac mae’n hawdd mynd yno ar hyd y briffordd sy’n dilyn yr arfordir heibio’r morglawdd.  Mae’n lleoliad deniadol, gyda Mynydd Twr i’r gorllewin a Môr Iwerddon i’r gogledd.  Yr ynysoedd alltraeth a welir ar y gorwel ar ddiwrnod clir yw Ynysoedd y Moelrhoniaid, sydd tua 7 milltir i ffwrdd.

O’r ardal hon y daeth y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu’r morglawdd.  Mae gan y parc ganolfan ymwelwyr, cyfleusterau parcio da, ac mae digonedd o lwybrau troed.  Mae Llwybr Arfordirol Môn yn mynd drwy’r warchodfa, gan ddilyn yr arfordir o gwmpas Porth Namarch ac ymlaen i Ynys Arw a’r orsaf rybuddio pan fo niwl.  Mae llwybr natur y parc yn ffordd dda o weld y gwahanol fathau o gynefinoedd a bywyd gwyllt sydd yma.  Mae Parc Gwledig y Morglawdd yn fan arbennig o dda i wylio golfanod sy’n mudo yn y gwanwyn neu’r hydref, yn ogystal ag adar môr ac ymwelwyr haf fel y wennol a’r wennol ddu.  Mae preswylwyr yr hen chwareli yn cynnwys y frân goesgoch garismatig a’r hebog tramor rhyfeddol.

Mae’r rhostiroedd yn cynnal poblogaeth o’r glöyn byw, y glesyn serennog, ac mae’r warchodfa yn gartref i nifer o wahanol rywogaethau o wyfynod gan gynnwys y teigr cochddu, teigrod y benfelen, blaen brigyn a’r em fforchog arian. Mae’r prysgwydd o eithin a mieri yn denu telor yr helyg, clochdar y cerrig, tinwen y garn a llinosiaid, ac mae’r dylluan fach yn ymweld â warchodfa – ac yn nodweddiadol fe’i gwelir yn haws yn ystod y dydd na’r dylluan frech neu’r dylluan wen.  Mae nifer o wahanol fathau o degeirianau yma gan gynnwys tegeirian y wenynen, tegeirian y gors a’r tegeirian brych.  Yn y gwanwyn ceir arddangosfeydd hardd o glustog Fair, seren y gwanwyn a throed yr iâr yn eu blodau.  Mae’r arfordir yn lle da i edrych am lamhidyddion, morloi llwyd a dolffin Risso a’r dolffin cyffredin.  Mae’r llynnoedd yn gartref i ieir dŵr a hwyaid gwyllt sy’n magu yno, a gellir gweld y crëyr glas yn aml yn sefyll yn berffaith llonydd, yn disgwyl yn eiddgar am unrhyw gyfle i ddal pysgod!

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus.