Bywyd Gwyllt – Penmon ac Ynys Seiriol

Coronafeirws: cyngor ar gyfer ymweld ag Ynys Môn

Gweler Cyngor Coronafeirws


Mae Penmon yn ffurfio man dwyreiniol Ynys Môn, gan ymwthio allan i Fae Conwy.  Mae Ynys Seiriol ar ben gogledd ddwyrain Trwyn Du (Trwyn Penmon) tua hanner milltir o’r lan.  Gellir gwerthfawrogi golygfeydd syfrdanol yr ardal a’r bywyd gwyllt o’i rwydweithiau o ffyrdd tramwy cyhoeddus cynhwysfawr.

Mae Llwybr Arfordirol Môn yn dilyn yr arfordir o bentref Penmon a Caim, gan fynd heibio i safleoedd hanesyddol Eglwys a Phriordy Penmon, y colomendy sy’n 400 mlwydd oed a’r parc ceirw nodedig.  Ni cheir mynd ar Ynys Seiriol heb ganiatâd y perchennog, ond mae tripiau mewn cwch o amgylch yr ynys yn ystod yr haf o Fiwmares sydd gerllaw.  Mae’r holl ardal yn bwysig iawn ar gyfer adar môr a rhydwyr a dynodwyd Ynys Seiriol fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA).  Mae yma gytref fawr o adar môr gyda nifer sylweddol o oedolion yn dychwelyd yn y gwanwyn i fagu teulu.  Y rhywogaethau pwysicaf yw’r llursod, y fulfran werdd, gwylogod, gwylanod coesddu, adar drycin y graig, gwylanod y penwaig, gwylanod cefnddu lleiaf a gwylanod cefnddu mwyaf.  Mae’r ardal o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd ei boblogaeth o fulfrain sy’n bridio ac mae hefyd yn fan clwydo pwysig ar gyfer piod y môr.  Roedd y pâl yn gyffredin ar yr ynys unwaith ond maent yn eithaf prin erbyn heddiw.  Pan fyddant yn magu teulu yma byddant yn dodwy eu hwyau yn y craciau rhwng y creigiau gan fod swbstradau creigiog yr ynys yn eu hatal rhag cloddio tyllau ble gallant nythu fel maent yn arfer ei wneud.  Mae’r arfordir a’r traeth creigiog yn cynnal nifer o gymunedau morol diddorol a gwahanol gydag amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys gwymon, cen, molysgiaid, mwydod morol, chwistrellau môr, sbwng, crancod, anemonïau ac anifeiliaid sy’n tyllu’r graig.  Yn aml gellir gweld morloi llwyd wedi tynnu eu hunain i’r lan ac ambell dro gellir gweld llamhidyddion yn bwydo yn llif y llanw.

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus