Caergybi

Coronafeirws: cyngor ar gyfer ymweld ag Ynys Môn

Gweler Cyngor Coronafeirws


Gellir olrhain tarddiad Caergybi yn ôl i 450CC, pan orchfygwyd goresgynwyr o Iwerddon gan y Brenin Celtaidd Caswallon ar Ynys Gybi.

Porthladd Caergybi yw porthladd fferi Iwerddon prysuraf y DG ac mae’n gartref i’r fferi fôr fwyaf yn y byd.  Mae golygfeydd da dros y porthladd o dir Eglwys Sant Cybi, lle ceir hefyd olygfa dda o heneb Skinners ar graig Alltran.  Codwyd yr obelisg gan bobl Caergybi er cof am y Capten John McGregor Skinner, un fu yn gymwynasgar iawn i dlodion y dref ac a foddodd yn dilyn ei olchi dros fwrdd ei long yn 1832.

Yng nghanol y dref, mae Eglwys Sant Cybi a sefydlwyd tua 550OC, yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Caer Gybi ac mae waliau’r gaer wreiddiol yn ei hamgylchynu o hyd.  Yn yr ardal o gwmpas, fe geir nifer o safleoedd cynhanesyddol, yn cynnwys Siambr Gladdu Neolithig Trefignath, 1.5 filltir i’r De-ddwyrain o’r dref.  Mae cytiau Gwyddelig Tŷ Mawr o ddiwedd y cyfnod Neolithig neu ddechrau’r Oes Efydd i’w gweld ar lethrau deheuol Mynydd Caergybi yn agos i Ynys Lawd.

Mae yna deithiau cerdded  gwych o gwmpas yr arfordir ym Mharc Gwledig y Morglawdd, ac mae’r rhain yn cynnwys llwybrau sain, oriel agored newydd yn yr hen sied frics, a theithiau cerdded thematig.  Mae Parc Gwledig y Morglawdd a Chanolfan Ymwelwyr y Gymdeithas Frenhinol Er Gwarchod Adar yn Nhŵr Elin, Ynys Lawd yn ganolfannau gwylio adar poblogaidd.

Mae dewis gwych o dafarndai a bwytai yng Nghaergybi yn ogystal â dewis da o siopau, a chanolfan siopa  y tu allan i ganol y dref.