Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys.
Does dim yn well na threulio diwrnod yn ymlacio ar draeth!
Tair llwybr eiconig yw Ffordd Cymru sy'n mynd â chi drwy'r gorau sydd gan Cymru i'w gynnig.
Ymunwch a'r hwyl yn Llangefni ar Nos Wener!
Dewch am ddiwrnod o hwyl, i'r ffair Nadolig yng Ngwesty Bulkeley ym Miwmares!
Dyma adeilad llawn atgofion a chyfrinachau trist, sy’n rhoi cipolwg rhyfeddol ar fyd y carcharor yn yr 1800au.
Melin Llynon, a adeiladwyd yn 1775, yw'r unig felin wynt weithredol yng Nghymru. Mae'n cynhyrchu blawd mal gwenith cyflawn yn defnyddio grawn organig.
Mae’r amgueddfa gymunedol hon yn adrodd hanes croesi’r Fenai ac yn dathlu’r ddwy bont fyd enwog a’r peirianwyr a’u hadeiladodd.
Am ddiwrnod difyr yng nghefn gwlad hardd Ynys Môn, beth am ymweld â Pharc Morglawdd Caergybi? Mae wedi'i leoli wrth ymyl tref a phorthladd Caergybi - y porth celtaidd i Iwerddon.
Mae'r parc yn rhoi blas ar holl brydferthwch, hanes ac apêl naturiol Ynys Môn - a hynny o fewn un safle. Mae gan y parc lawer i'w gynnig:
Arddangosfeydd - gallwch ganfod mwy am fywyd gwyllt a hanes diwydiannol y parc gwledig yn y ganolfan wybodaeth ac yn yr arddangosfeydd awyr agored.
Llyn Llwynog - lle gallwch chi bysgota a gwylio'r cychod bach neu ymlacio yng nghwmni'r ieir dŵr a'r hwyaid gwylltion.
Yr Arfordir Creigiog - mwynhewch y golygfeydd trawiadol wrth grwydro yn yr eithin a'r grug. . Bywyd gwyllt - gwyliwch y brain coesgoch a'r hebogau tramor wrth iddyn nhw hedfan uwchben yr hen chwarel.
Cerdded - mae yma amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr ar bob lefel, gan gynnwys mynediad i Mynydd Twr ac Ynys Lawd.
Cafodd Parc Gwledig Morglawdd Caergybi ei agor ym 1990 ac mae wedi'i leoli ar safle hen chwarel. O'r chwarel hon y cafwyd y cerrig i adeiladu morglawdd Caergybi sy'n 2.3km o hyd - y morglawdd hiraf yn Ewrop gafodd ei adeiladu rhwng 1846 a 1873. Mae'r parc yn cael ei reoli gan Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.
Caffi'r Parc
Mae Caffi’r Parc yn aros i’ch croesawu ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi, sy’n lle braf a lledrithiol.
Buom wrthi’n trawsnewid hen dŷ’r warden yn y Parc yn lle gwych i roi eich clun i lawr, neu i gasglu bwyd ar gyfer eich tro o gwmpas y parc gwledig rhagorol sydd yng Nghaergybi.
Toiledau
I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus
Ceir rhestr o doiledau sydd ar gael yny gymuned drwy Cynllun Grant Toiledau Cymru.
Her Cyfeiriannu ym Mharc Gwledig Morglawdd, Caergybi
Beth am roi cynnig ar y cwrs cyfeiriannu ym Mharc Gwledig y Morglawdd Caergybi?
Yr holl sydd angen ei wneud yw lawrlwytho ac argraffu’r adnoddau isod ac ewch ati! Nid oes angen archebu lle ac mae’n rhad ac am ddim!
Adran Amgylchedd a Technegol Swyddfeydd y Cyngor Llangefni Ynys Môn/br> LL77 7TW Ffôn: Derbynfa: +44 (0)1248 752428 Ffacs: +44 (0)1248 752412 Email: [email protected]
'Cerdded o amgylch Ynys Môn.'
'Un o’r tirweddau mwyaf amrywiol, prydferth ac arbennig ym Mhrydain.'
'Gwybodaeth am ardal arfordirol Ynys Môn.'
'Mae pob math o weithgareddau yn yr awyr agored yn Ynys Môn, mae dewis helaeth yma. '
'Pa ffordd well i fwynhau harddwch naturiol Ynys Môn nag ar gefn beic. '
'Os ydych eisiau’r cyfle i brofi golygfa wefreiddiol o filoedd o adar môr yn nythu yn ystod y gwanwyn a’r haf, yna mae’n rhaid ymweld ag Ynys Lawd! '
'Mapiau a disgrifiadau o'r teithiau cefn glwad Ynys Môn. '
(DECHREUWCH DEIPIO I CHWILIO)
CHWILIWCH ODDI FEWN I