Tirwedd - Traeth Coch a Choedwig Pentraeth

Coronafeirws: cyngor ar gyfer ymweld ag Ynys Môn

Gweler Cyngor Coronafeirws


Roedd Traeth Coch, sydd ar arfordir dwyreiniol Môn rhwng pentrefi Pentraeth a  Benllech, yn borthladd pwysig ar un adeg. Mae’r traeth tywodlyd yn ymestyn am tua 2.5 milltir o Gastell Mawr, tŵr anferth o garreg galch ar lan ogleddol y bae, tuag at lwyfandir carreg galch yn y de a elwir yn Fwrdd Arthur.  

Mae Coedwig Llwydiarth yn ffinio’r bae ar ei ochr dwyreiniol. Wedi ei phlannu ar Fynydd Llwydiarth yn 1950au mae’r goedwig yn cynnig llecyn manteisiol ardderchog ble gallwch edmygu ehangder helaeth Traeth Coch yn enwedig ar lanw isel pan ddatguddir ryw 10 milltir sgwâr o dywod. Ewch am dro’n dawel drwy’r goedwig ac efallai y clywch balfalu crafangau a chael cipolwg ar gynffon drwchus goch yn diflannu y tu ôl i foncyff, gan mai yma roedd lloches olaf y wiwer goch ym Môn tan iddynt gael eu hailgyflwyno yn ddiweddar. Tra mae’r môr ar drai edrychwch yn agosach ar y traeth ac mi fyddwch yn deall pam fod amrywiaeth o rydwyr yn mwynhau’r ardal. Mae olion torchog llyngyr y traeth yn amlwg cyn belled ag a wêl y llygad mewn rhai mannau, a phantiau yn y tywod yw’r unig dystiolaeth o’r gwahanol gregyn bylchog sy’n llechu dan wyneb y tywod. Mae’r pentref sydd ar ochr orllewinol y bae hefyd yn cael ei alw’n Traeth Coch. Cysylltir â Phentraeth drwy Lwybr Arfordirol Môn ac mae’n cynnig lle cyfleus i gael tamaid i’w fwyta a mwynhau'r golygfeydd syfrdanol dros y bae tuag at Goedwig Llwydiarth a Bwrdd Arthur.

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus