Traeth Benllech

Benllech yw un o draethau mwyaf poblogaidd yr ynys gyda thywod euraidd cain a dyfroedd glas clir sydd yn eithriadol o ddiogel ar gyfer ymdrochi a phadlo.

Mae cyfleusterau ardderchog i bobl anabl  gyda mynediad ar gyfer pramiau ac ymwelwyr anabl.

Ar lanw isel, mae'r tywod yn ymestyn am filltiroedd gan gynnig  digon o le i blant ifanc chwarae neu i fynd am dro.

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Meysydd parcio talu ac arddangos

manylion cyswllt

Cyfeirnod grid: SH 52292 82481
Côd post agosaf: LL74 8QE

Galeri