Bwyd a Diod
Mae Ynys Môn yn apelio at yr holl synhwyrau ac mae'n anodd dod o hyd i gyrchfan well i unrhyw un sy’n hoff o fwyd. Yn y gorffennol cyfeirid at yr ynys fel Môn Mam Cymru oherwydd y cynnyrch a dyfid yno, ac mae’n dal i fanteisio ar gynnyrch y tir a’r môr, er enghraifft trwy gynnig bwyd môr ffres, gyda Halen Môn i’w flasu, wedi ei gynhyrchu yn nyfroedd clir y Fenai.
Ewch i’r farchnad ffermwyr a gynhelir yn fisol ym Mhorthaethwy lle mae cynhyrchwyr bwyd lleol yn cynnig dewis o fwydydd blasus, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi eu gwneud, eu casglu neu eu dal yn ffres y bore hwnnw. Neu ymunwch â ni yn un o’n gwyliau poblogaidd, fel Gŵyl Bwyd Môr Menai neu’r Wŷl Llymarch a Chynnyrch Bwyd Cymreig.
Wrth gwrs, os yw’n well gennych gael gwledd wedi ei pharatoi a’i gweini ar eich cyfer, beth am archebu bwrdd yn un o fwytai gwych Ynys Môn. Gallwch fwynhau awyrgylch hamddenol Dylan’s neu flasu cynnyrch lleol yn y Llew Du, cael eich denu gan fwydlenni tymhorol y Bullshead ym Miwmares neu fwynhau lleoliad hyfryd yr Oyster Catcher.
Darperir gwybodaeth ar rai o fwytai a chynhyrchwyr bwyd Ynys Môn ar y safle hon.