Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Esgidiau cerdded

Cerdded

Mae Ynys Môn yn hafan ddelfrydol i gerddwyr.

Mae mynd am dro yn Ynys Môn yn bleser ynddo’i hun. Mae mwy i gerdded na dilyn llwybr; byddwch yn mwynhau’r pethau y byddwch yn eu gweld, eu clywed, eu harogli a’u teimlo ar y daith, oherwydd ni allwch gerdded yn Ynys Môn heb ymdeimlo â’ch synhwyrau a chael eich cyfareddu gan yr hyn sydd o’ch cwmpas…

Mae Ynys Môn yn hafan ddelfrydol i gerddwyr, gyda digon o ddewis o lwybrau treftadaeth, llwybrau bywyd gwyllt a geolwybrau diddorol. Wrth gerdded ar y llwybrau byddwch yn mynd heibio clogwyni uchel, traethau tywod, coetiroedd trawiadol, mynyddoedd, corsydd a glaswelltir.

Mae nifer o’r ymwelwyr a ddaw i Ynys Môn yn dod yma i gerdded ar hyd llwybr yr arfordir sy’n mesur 125 milltir o gwmpas yr ynys.

Mae’n cynnig ambell her gan ei fod yn codi 4,174 metr yn ystod y daith, ond wrth fynd ar ei hyd cewch fwynhau harddwch gwyllt ein harfordir drosoch eich hun.

Oedwch ar y ffordd mewn ambell gildraeth cuddiedig, gwyliwch y morloi’n codi eu pennau yn y dŵr islaw neu mwynhewch ginio blasus yn un o’r bwytai niferus ger y glannau.

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau