Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

arwyddbost llwybr arfordirol yn dangos y traeth un ffordd a phobl mewn pellter

Llwybr Arfordirol Ynys Môn

arwyddbost llwybr arfordirol yn dangos y traeth un ffordd a phobl mewn pellter

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl. 

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).

Ffeithiau

Hyd: 130 milltir / 200km
Esgyniad / disgyniad dros y llwybr cyfan: 4,174 medr / 13,695 troedfedd
Man cychwyn swyddogol: Eglwys Sant Cybi, Caergybi (cyfeirnod grid SH247 826)
Cyfartaledd nifer y dyddiadau i'w gwblhau'r daith: 12
Trefi / pentrefi yn uniongyrchol ar y llwybr: 20
Oes modd cwblhau pob rhan yn defnyddio cludiant cyhoeddus: Oes

Uchafbwyntiau

  • Mynydd Twr (y pwynt uchaf ar yr ynys).
  • Goleudy a chlogwyni môr Ynys Lawd.
  • Bwâu môr ym Mwa Gwyn (Rhoscolyn).
  • Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys).
  • Porth Wen.
  • Ynys Llanddwyn.
  • Pont y Borth.
  • Pont Britannia.
  • Eglwysi Llangwyfan (Aberffraw) Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy).
  • Gwarchodfa Natur Cemlyn.
  • Trwyn a Phriordy Penmon.
  • Brain Coesgoch, Hebogau Tramor, Gwenoliaid y Môr, Llamhidyddion, Morloi a blodau gwyllt y gwanwyn.

Cyfeillion y Llwybr Arfordirol

Gall unrhyw un sydd wedi cwblhau’r 130 milltir lawn o Lwybr yr Arfordir yn awr gael eu gwobrwyo â bathodyn arbennig a thystysgrif yn cydnabod y cyflawniad hwn.

I hawlio eich bathodyn, llenwch y ffurflen ar-lein ar safle we Cyfeillion y Llwybr Arfordirol (yn Saesneg).

Disgrifiadau llwybr a mapiau

Mae'r ynys wedi'i rhannu i mewn i 12 adran. I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am daith gerdded arbennig, ewch i'r wefan.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Ynys Môn

Mwynderau

  • Cyfeillgar i deuluoedd

gerllaw...