Sgip i'r prif gynnwys

Cyfarwyddiadau

Y Maes Parcio i Drwyn y Balog (neu Trwyn Eilian)

Trowch i’r dde allan o’r maes parcio a cherddwch i lawr y ffordd i Borth Eilian. Gan aros ar y ffordd, trowch i’r dde, a dilynwch y ffordd i fyny’r llethr, heibio’r fan (ar y dde) y byddwch yn ailymuno â’r llwybr wrth ddychwelyd.

Ar ôl 300m, trowch i’r dde drwy giât mochyn. Os ydych yn dymuno, gallwch barhau ar hyd y ffordd i fynd at Oleudy Trwyn y Balog ac yn ôl.

Trwyn y Balog i’r hen orsaf delegraff

Dilynwch y llwybr ar ochr dde’r cae i’r dwyrain, tua’r arfordir. Gyda’r wal ar y dde, ewch drwy giât mochyn ym mhen pellaf y cae ac i’r dde i lawr i’r môr, a chilfach Porth y Corwgl.

Dilynwch yr arfordir gyda’r môr ar y chwith i chi, ac ewch drwy giât mochyn i mewn i’r cae nesaf. Ewch yn syth ar draws y cae a thrwy giât mochyn arall. Cadwch i’r dde am ychydig i fyny’r bryn at y giât mochyn nesaf.

Dilynwch ymyl y cae hwn ar y dde at giât mochyn fetel yng nghornel y cae ar y dde. Ceir mainc yma i chi gael eich gwynt atoch.

Cadwch i’r chwith ar draws y cae nesaf gan fynd i gyfeiriad croeslinol i fyny’r bryn, heibio’r cyfeirbost at y gamfa yn y gornel ar y chwith. Yna byddwch yn mynd i fyny drwy rywfaint o eithin.

Dilynwch y prif drac a chadwch olwg am y cyfeirbost melyn. Ar ben y trac, trowch i’r dde, a dilynwch y wal (yr hen orsaf delegraff ydy’r tŷ gwyn ar y chwith) a cherddwch rhwng y ddwy ffens a thros gamfa arall.

Cerddwch heibio’r adeilad allan ar y chwith, ac ewch dros y gamfa fetel yn y groesffordd yn y llwybrau i fynd ar y trac.

Os ydych eisiau cyrraedd copa Mynydd Eilian, dilynwch y llwybr yn syth ymlaen yn y groesffordd. Croeswch y trac, trowch i’r dde ar ôl ymuno â lôn, ac yna trowch i’r chwith i fyny at y copa.

Yr hen orsaf delegraff i’r maes parcio

Trowch i’r dde i lawr y trac. Yn lle mae’r dreif yn gwyro i’r chwith yn y fynedfa i Refail Hir, ewch i’r dde i lawr llwybr â gwrych ar y naill ochr iddo.

Noder: mae hwn yn serth mewn mannau, ac efallai’n wlyb a mwdlyd.

Yn fuan wedyn ar y chwith, ceir coetir Coed Avens sy’n agored i’r cyhoedd. Ewch ymlaen i lawr y llwybr at drac. Trowch i’r dde i fynd arno, ac yna’n fuan wedyn, trowch i’r chwith dros stepiau cerrig, a thrwy giât i mewn i gae.

Ewch i lawr yr ochr chwith i’r cae, a thros gamfa. Ewch i’r dde, a dilynwch linell y ffens ar y dde at giât mochyn.

Ewch ymlaen ar hyd llinell y ffens at y giât mochyn nesaf yn y gornel ar y dde, ac yna cadwch i’r chwith i lawr at y gamfa garreg wrth y bont.

Ewch dros y gamfa hon i’r ffordd, trowch i’r chwith, a dilynwch y ffordd yn ôl i fyny i’r maes parcio.