Sgip i'r prif gynnwys

Disgrifiad o'r llwybr

Ar y ffordd allan o Fiwmares, pasiwch westy’r ‘Liverpool Arms’, ac ymunwch â’r promenâd o flaen yr arhosfan bysiau heibio nifer o feinciau. Yn union ar ôl yr arwyddion cyfyngu cyflymder, cymrwch y lôn – gyda’r arwydd am y cwrs golff – i’r dde. Pasiwch y fynedfa at Gwrs Golff Baron Hill. Yn fuan ar ôl hon, trowch i’r chwith i fyny’r lôn at Pen-y-Parc.

Yn y gaeaf - oherwydd bod y rhan hon yn fwdlyd - fe fyddai’n ddoeth i chi fynd ymlaen ar hyd y lôn, heibio’r gronfa ddŵr, a throi i’r chwith yn y groesffordd i ailymuno â’r llwybr yn ei ben pellaf wrth gamfa gerrig.

Ewch i’r dde oddi ar y lôn at giât mochyn wrth wal gerrig. Dilynwch y wal gerrig, croeswch drac ac ymunwch â llwybr caeedig. O borth, ewch i’r chwith at giât mochyn. Ewch drwyddi, trowch i’r chwith a cherddwch drwy gae, gan gadw ar yr ochr chwith iddi. Gan ddilyn wal, fe ddowch i giât mochyn. Ewch drwyddi, ac ewch dros y tir uwch drwy’r coed, trwy gae arall, ac ar hyd llwybr wedi’i glirio sy’n dod allan o flaen camfa gerrig wrth giât. Trowch i’r chwith a dilynwch y lôn i Landegfan.

Ewch heibio’r Swyddfa Bost a siop, ac fe ddechreuwch fynd i lawr allt, gan groesi’r ffordd i ddilyn y palmant. Cerddwch i lawr allt Cichle, ac ar ôl cyrraedd y ffordd fawr, trowch i’r dde. Dilynwch y ffordd dros bont Afon Cadnant, gan fynd i Borthaethwy. Ewch heibio Nant Terrace, ac yna i’r chwith i fyny Ffordd Cynan (‘St Georges Rd.’). Ewch heibio’r capel ac Adran Gwyddorau Môr Prifysgol Bangor, ac wrth gyffordd ‘T’ wrth Cadfan Villa, trowch i’r dde. Mewn cyffordd o‘ch blaen, ewch yn syth ymlaen, heibio’r doc, ac yna trowch i’r chwith i fynd ar y promenâd ar hyd y pier. Ewch i’r dde oddi ar y pier, yn syth yn eich blaen heibio’r ‘Liverpool Arms’, ac yn y gyffordd trowch i’r chwith. Ewch heibio Porth y Wrach, heibio ychydig o gyffyrdd ar yr ochr dde, a lle mae’r lôn yn rhannu, ewch i’r chwith. Ewch o dan Bont y Borth.

Ewch i’r chwith drwy dwll yn y wal, ac ar hyd y llwybr yn y llecyn coediog heibio cerflun ar gyfer y Llwybr Arfordirol ac o amgylch cerrig gorsedd yr Eisteddfod. Gan ddod yn ôl allan ar y ffordd, trowch i’r chwith, ac yn fuan wedyn, ewch i’r chwith unwaith eto i lawr i bromenâd y Belgiaid (‘Belgian Promenade’). O’r gyffordd lle mae sarn (‘causeway’) yn croesi at eglwys Sant Tysilio, ewch yn syth ymlaen ar hyd llwybr sy’n dilyn y lan, ac sy’n rhedeg y tu ôl i set o gaergewyll (‘gabions’), gan ddilyn perimedr y Clwb Rygbi. Dewch allan drwy giât i mewn i le parcio, heibio gorsaf bwmpio, ac ewch i’r chwith i fyny lôn at y ffordd fawr. Yn y ffordd fawr, trowch i’r chwith, a dilynwch y ffordd drwy’r gilfan barcio gyferbyn â’r gyfnewidfa ffôn. Yn union ar ôl yr arwyddion cyfyngu cyflymder allan o Borthaethwy, trowch i’r chwith i fynd ar lwybr i lawr cae.

Ar waelod y cae, ewch drwy’r giât fechan a throwch i’r dde, ar draws y cae, dros ffos ddraenio, a thrwy lecyn bach o goetir. Anelwch am y giât mochyn ar waelod llinell y ffens o’ch blaen. Croeswch hi, a dilynwch y llwybr sydd wedi’i ffensio, heibio’r cerflun pren. O gyffordd yn y llwybrau, ewch yn syth yn eich blaen drwy giât fechan, ar hyd gwaelod y cae nesaf, i fynd i mewn i Goed y Môr. Dilynwch y llwybr clir ar hyd estyllod trwy ben isaf y coed, gan basio llwybr sy’n arwain i’r dde i fyny drwy’r coed. Croeswch ffos fawr, ac mae’r llwybr yn agor allan dan Bont Britannia. Ewch drwy’r bwlch yn y wal ac i’r dde, cyn y bont ei hun. Dilynwch y trac i fyny at lôn wrth Westy Carreg Bran. Trowch i’r chwith. Cerddwch drwy fynwent Eglwys y Santes Fair a dilynwch y llwybr i lawr i’r lan.

Y llanw

Mae rhan nesaf o’r llwybr yn cael ei chyfyngu gan y llanw – oddeutu awr y naill ochr a’r llall i’r llanw uchel a lle mae’n gadael y traeth, mae ar gau rhwng 9pm a 7am.

Trowch i’r dde, a dilynwch y lan heibio cerflun Nelson, am tua 250 medr.

Ewch i’r dde i fyny’r grisiau a throwch i’r chwith ar hyd llwybr caeedig. Ar ôl cyrraedd y cwt cwch, ewch i’r chwith, croeswch y pier, a dilynwch y llwybr uchel. Lle mae’r llwybr yn gorffen, ewch i’r chwith i fyny drwy goetir i ddod allan ar lôn ym Mhwllfanogl.

Ewch i fyny’r lôn ac ar ôl cyrraedd y ffordd fawr, ewch i’r chwith dros bompren ar draws Afon Braint. Croeswch y lôn heibio’r porthdy ac yn fuan, croeswch y ffordd a dilynwch y pafin i’r gogledd o’r A4080. Ar ôl cyrraedd Bythynnod Victoria, ewch i’r dde ac yna’n syth i’r chwith drwy giât mochyn i ran gaeedig drwy’r caeau ac ar hyd llwybrau estyllod. Gyda hyn, fe ddowch at lôn fechan, ewch drwy’r giât mochyn a dilynwch y lôn drwy giât mewn cae ac i Llwyn Onn.

Yn Llwyn Onn, ewch drwy’r giât mochyn i’r cae, a chyda terfyn y cae i’r dde i chi, fe ddewch yn o fuan at giât mochyn. Ewch drwy’r giât a chroeswch y cae gan anelu am Bryn Celli Wen. Ewch drwy giât mochyn arall ac ewch i gyfeiriad y bompren. Peidiwch â’i chroesi, ond ewch i’r chwith gyda’r nant i’r dde i chi. Yn o fuan, fe ddewch at ramp sy’n arwain at y ffordd fawr. Ewch i’r chwith yma a dilynwch y ffordd, gan gymryd gofal wrth groesi’r A4080 a chan gymryd y lôn i lawr yr arfordir at Foel y Don.