Disgrifiad o'r llwybr
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl.
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn dechrau yn swyddogol wrth Eglwys Sant Cybi, cyfeirnod grid SH248 826.Gadewch yr eglwys i gyfeiriad deheuol drwy Stryd y Farchnad a dilynwch y stryd fawr sydd wedi ei phedestreiddio am oddeutu 100m. Yna, trowch i’r chwith a chroeswch y bont droed – y Porth Celtaidd – ar draws yr harbwr. Cerddwch drwy’r orsaf a therfynellau’r porthladd ac unwaith y byddwch allan, trowch i’r dde i adael y porthladd. Wrth y gylchfan, trowch i’r chwith ar hyd Ffordd Turkeyshore i gyfeiriad cofadail.
Dilynwch y ffordd heibio dwy lôn i mewn i stadau tai, ac yn fuan wedyn trowch i’r dde i fyny llwybr a chanddo wal o bobtu iddo yn union ar ôl yr iard goed Gan ddilyn llwybr caeedig, fe fyddwch yn pasio y tu ôl i nifer o ffatrïoedd, llwybr i lawr i’r lan, ynghyd â gorsaf bwmpio, i ddod allan ar gae chwarae. Cadwch ar ochr chwith y caeau, tuag at fwlch mewn gwrych mewn un man. Ewch heibio’r lle chwarae a’r cae pêl-droed.
Ewch rhwng dau gilbost cerrig a dilynwch lwybr caeedig i ddod allan wrth hen adeilad toiledau mewn maes parcio. Ewch i’r chwith i ddilyn llwybr ag wyneb arno ar hyd arglawdd (‘embankment’) y tu ôl i Draeth Penrhos. Ym mhen pellaf yr arglawdd, fe gyrhaeddwch dŷ lliw hufen a maes parcio arall lle bydd angen i chi fynd i’r chwith. Dilynwch lwybr cul ar hyd y morlin (‘coastline’), ac ar ôl cyrraedd wal gerrig fawr ewch drwy’r bwlch ac i’r chwith. Pasiwch ‘The Batery’, a dilynwch y llwybr sydd wedi’i ffensio o gwmpas y penrhyn. O gyffordd gyda ffordd darmac, trowch i’r chwith tuag at y trac mynediad i ‘The Bathing House’.
Ar ôl cyrraedd y trac mynediad, trowch i’r dde a’i ddilyn nes cyrhaeddwch gyffordd arall yn y llwybrau. Yn y fan hon, trowch i’r chwith i fynd ar y penrhyn gan anelu i fyny ochr chwith y cae at Gorsedd y Penrhyn.Ar ôl cyrraedd lle eistedd yng Ngorsedd y Penrhyn, ewch i’r dde i lawr ochr arall y cae gan ddilyn y morlin tuag at adeilad gwyn sydd i’w weld yn y Parc Arfordirol. Ar ôl cyrraedd trac, trowch i’r chwith gan basio pwll. Wrth ddynesu at dŷ Beddmanarch, dilynwch y llwybr i’r dde, gan droi i’r chwith o gwmpas mynwent, ac yna i’r chwith eto drwy fwlch yn y wal.
Ar ôl cyrraedd yr arfordir, trowch i’r dde (oddi wrth dŷ Beddmanarch), heibio’r gofeb a pholyn fflag, i ymuno â llwybr ag wyneb arno tuag at y Tolldy. Ewch drwy faes parcio Parc Arfordirol Penrhos, heibio’r toiledau ac ar hyd y lôn heibio Caffi’r Tolldy (‘Tollhouse Café’) i ymuno â’r ffordd fawr. Trowch i’r chwith. Ewch drwy’r giât a cherddwch ar hyd Còb Stanley gyda’r glwyd ddiogelwch rhyngoch chi a’r traffig.
Ar ôl cyrraedd ochr arall Y Lasinwen, trowch i’r chwith. Yma, fe gewch ddewis mynd am y traeth neu’r tir.
I fynd am y traeth
Ewch drwy’r bwlch yn y ffens a throwch i’r dde ar hyd y lan.
Ar ôl pasio dau lwybr sy’n dod i lawr i’r lan, fe ddewch allan ar draeth Gorad, lle mae Ffordd Gorad yn dod allan.
Opsiwn llanw uchel
Ewch drwy’r bwlch yn y ffens a dilynwch y llwybr rownd i’r dde, i fyny ychydig o risiau i ddod allan mewn cae. Croeswch y cae ac ewch ar hyd llwybr caeedig i ddod allan yn stad dai Parc Newlands. Dilynwch y ffordd yn syth ymlaen a throwch i’r chwith i lawr Ffordd Gorad. Ym mhen pellaf y stadau tai, trowch i’r chwith ar hyd y lôn tuag at y traeth. Yn fuan wedyn, trowch i’r dde ar lwybr wedi’i ffensio a dilynwch hwnnw i lawr ychydig o risiau i Draeth Gorad.
Cerddwch ar draws y traeth, heibio’r bwthyn o’r enw ‘Wavecrest’, ac wrth ddynesu tuag at y tŷ o’r enw Penrhyn Bach, ewch i’r dde i fyny dau ris wrth giât. Dilynwch lwybr caeedig y tu ôl i’r tŷ. Croeswch drac, a chariwch ymlaen ar hyd trac caeedig i ddod allan drwy giât ar lannau’r Afon Alaw.Yma, dilynwch lwybr ar hyd glannau’r afon (dylai’r Afon Alaw fod ar y chwith i chi). Ar ôl oddeutu 2 gilomedr; fe ddowch at bont 35m dros yr afon.Ewch dros y bont o flaen Neuadd Wen a throwch i’r chwith drwy giât mochyn. Cerddwch ar hyd glannau’r afon , ewch drwy giât gan ddilyn y gwrychyn sydd ar y dde i chi ar draws cae. Ewch drwy giât arall i ailymuno â glannau’r afon.
Croeswch gamfa gerrig mewn wal, ac yna drwy giât i mewn i gae gan gerdded tuag at Fynydd Twr ar y gorwel. Trowch i’r chwith wrth y giât nesaf, ar hyd darn byr o drac, ac yna drwy giât arall i gae. Trowch i’r dde a dilynwch y wal gerrig isel, ac o’r porth ewch i’r dde. Ar ôl codiad bach fe ddylech ddechrau mynd i’r chwith ac fe ddowch at gamfa risiog, ewch dros a daliwch i fynd i’r chwith, oddi wrth y wal.
Rydych bellach yn y llecyn sydd wedi’i farcio yn ‘Rabbit Warren’ ar y map ‘OS Explorer’. Daliwch a' i gerdded i gyfeiriad y simnai ar y gorwel, ac ar ôl cyrraedd ychydig o hen adeiladau, ewch i’r chwith drwy giât ar hyd arglawdd. Mae giât arall ym mhen pellaf yr arglawdd, ac ar ôl cyrraedd llecyn grugog, ewch yn syth yn eich blaen, ac yna i’r dde tuag at adfail bwthyn Tywyn-Gwyn. Pasiwch o flaen y bwthyn, dros gamfa, ac anelwch i’r chwith ar hyd trac i’r lan. Ewch drwy’r giât i’r lan a throwch i’r dde. Dilynwch ymyl y traeth ac fe ddaw fferm Penial Dowyn i’r golwg. Cyn cyrraedd Penial Dowyn ar hyd y lan, trowch i’r dde ar drac, ac yna i’r chwith i lawr lôn y fferm. Yn union cyn y tŷ a’r grid gwartheg, trowch i’r dde drwy’r giât.
Ewch i fyny’r rhiw o flaen y tŷ dros y gamfa gerrig, gyda'r gwrychyn i’r dde i chi, i fyny i ben y rhiw drwy’r giât ar y top. Cerddwch i lawr y cae nesaf, gyda Penial Fawr ar y dde i chi, a thrwy’r giât. Ewch ar y trac sy’n mynd i gyfeiriad y traeth, drwy giât a, lle mae’r llwybr yn rhannu, cymerwch y trac ar y chwith, drwy ddwy giât , i droi i’r chwith ar hyd y lôn at Barc Carafannau Penrhyn. Ar ôl cyrraedd y grid gwartheg wrth dŷ Penrhyn, ewch i’r dde ar hyd y trac heibio cytiau’r fferm.
Ewch yn syth yn eich blaen heibio arwydd Parc Carafannau Penrhyn, gyda’r cyrtiau tenis ar y chwith i chi, drwy giât mochyn fetel, ac ewch ymlaen i lawr y trac (gan anwybyddu’r giât bren i mewn i’r maes carafannau) i draeth Porth Tywyn Mawr.
Ar ôl cyrraedd maes carafannau arall, Tywyn Hir, fe allwch naill ai droi i’r chwith, cerdded darn byr ar hyd y traeth, a dychwelyd i’r llwybr arfordirol ar hyd llwybr cysylltu, neu trowch i’r dde a dilynwch drac i’r chwith drwy gae blaen y maes carafannau ac allan ar hyd y lôn. Fe ddowch i lôn. Trowch i’r dde, ac yna bron ar eich union i’r chwith, a dilynwch lwybr sy’n gyfochrog â’r traeth, gan basio rhwng dau gilbost cerrig, i ddod allan wrth dŷ gwyn ar lôn. Dilynwch y lôn i lawr yr allt ac, o gyffordd, ewch i’r chwith. Cerddwch heibio ychydig o adeiladau (Dryll y Gro ar y chwith i chi) ac ewch i’r chwith o borth i lawr at draeth Porth Trefadog. Croeswch y traeth, ac i fyny’r grisiau ar lwybr o gwmpas y penrhyn. Ewch drwy giât fechan, a dilynwch y llwybr drwy giât fechan arall ac yn syth ymlaen ar hyd trac.
Cerddwch heibio’r lôn at Pen Terfyn, a chariwch yn syth yn eich blaen. Ewch ar y ffordd darmac, heibio Tŷ Glan y Môr ar y dde, ac ar ben allt trowch i’r chwith ar lwybr wedi’i ffensio drwy giât. Ar ôl cyrraedd yr arfordir, ewch drwy’r giât mochyn a throwch i’r dde, dros bompren, a dilynwch y clawdd (ar y dde i chi) o gwmpas penrhyn. Ewch drwy giât arall, ac ymunwch â thrac glaswelltog. Fe ddowch i lôn, ac rydych bellach wedi cyrraedd bae Porth Trwyn.
I ddal y bws yn ôl i Gaergybi – trowch i’r chwith ar hyd y ffordd o Borth Trwyn, ac yn fuan wedyn trowch i’r dde i fyny’r lôn at Plas y Gwynt. Ewch heibio’r tŷ a thros y gamfa ar y dde i chi, gan gerdded i fyny’r cae gyda’r gwrych ar y chwith i chi. Croeswch dros y gamfa risiog, ac ymlaen i fyny’r cae nesaf.
Trowch i’r chwith dros gamfa, drwy lecyn coediog, drwy giât ac yna dros gamfa. Trowch i’r dde ar hyd trac, ac i’r dde unwaith eto ar hyd lôn oddi wrth dŷ Carreglwyd a thros grid gwartheg. Dilynwch y lôn i fyny’r allt drwy gae agored, dros grid gwartheg arall, a throwch i’r chwith ar hyd y ffordd i mewn i Lanfaethlu.
Fe allwch ddal y bws wrth siop y pentref.