Sgip i'r prif gynnwys

Disgrifiad o'r llwybr

Ewch allan o’r maes parcio yn Llyn Rhos-ddu heibio’r bwrdd gwybodaeth, ar hyd trac tywodlyd. Ar ôl cyrraedd bwrdd gwybodaeth arall a giât fe fyddwch yn ymuno â thrac. Wrth ddynesu at y goedwig, mae’r trac yn gorffen wrth giât a chanddi’r arwydd Gallt y Rhedyn, cymrwch y llwybr sy’n fforchio i’r chwith wrth adeilad adfeiliedig ac ewch yn syth yn eich blaen. Mae’r llwybr yn dilyn ymyl y goedwig am tua chilomedr, gan basio nifer o rodfeydd yn y goedwig. Ar ôl i’r llwybr godi ychydig, mae’n agor allan ac mae cyfeirbost yn eich cyfeirio i mewn i’r goedwig (os ydych eisiau mynd i’r traeth, ewch yn syth yn eich blaen). Trowch i’r dde.

Ar ôl cyrraedd croesffordd yn nhraciau’r goedwig, trowch i’r chwith (postyn rhif 37). Gan fynd heibio rhwystr (‘barrier’), fe ddowch allan yn y brif fynedfa i’r traeth, wrth y faner las. Trowch i’r dde, ewch drwy’r maes parcio, i’r chwith heibio’r gylchfan fechan, a heibio rhwystr arall i ddilyn ffordd drwy’r goedwig. Ar ôl cyrraedd cyffordd (gyda rhwystr ar y dde i chi), trowch i’r chwith (postyn rhif 3). Yn fuan wedyn, fe ddowch i faes parcio bach.

Ynys Llanddwyn

Ewch drwy’r maes parcio, trowch i’r dde ar hyd y traeth, dros y sarn, i fynd ar Ynys Llanddwyn. Dilynwch y trac llydan heibio gweddillion yr eglwys, a’r rhes o fythynnod, gan fynd i’r dde i fyny’r grisiau at yr hen oleudy. Dilynwch y llwybr yn ôl i ailymuno â’r llwybr arfordirol drwy’r goedwig.

Yn union cyn mynd i mewn i’r maes parcio, ewch i’r dde heibio postyn â rhif arno (4), i lawr i bant, ac yn syth ymlaen heibio postyn arall i fyny rhodfa drwy’r goedwig. Ar ôl cyrraedd cyffordd, trowch i’r chwith (postyn rhif 5). Lle mae’r llwybr yn fforchio, ewch i’r dde. Ar ôl cyrraedd cyffordd yn nhraciau’r goedwig, trowch i’r chwith (postyn rhif 9). Fe basiwch bwll bach. Pasiwch rodfa rhif 13. Ewch yn syth yn eich blaen heibio postyn 14. Ar ôl cyrraedd ymyl aber Malltraeth, ewch i’r dde ar hyd llwybr sy’n rhedeg yn gyfochrog â ffordd y goedwig (mae’r llanw yn gorlifo i’r ffordd hon). Ewch i’r dde yn ôl ar y trac, ac ar ôl cyrraedd cyffordd ‘T’ wrth bostyn 17, trowch i’r chwith. Ewch heibio pyst 33, 34 a 35, ac ar ôl cyrraedd rhwystr ar y ffordd fawr, ewch i’r chwith ar hyd llwybr sy’n gyfochrog â’r ffordd i gyrraedd maes parcio’r Fenter Goedwigaeth.

Croeswch y maes parcio, dros gamfa, ac ewch ar hyd top Cob Malltraeth. Ewch heibio’r llifddorau (‘sluice gates’), drwy giât, a throwch i’r chwith ar hyd y ffordd. Croeswch y bont i mewn i Falltraeth. Yn union ar ôl tafarn y ‘Royal Oak’ ar y chwith, trowch i’r chwith drwy’r giât mochyn. Ewch ar hyd y llwybr caeedig, drwy giât arall a heibio corsle (‘reed bed’). Mae’r llwybr yn agor allan, ac ar ôl cyrraedd wal fawr, daliwch i fynd yn syth yn eich blaen ac ewch drwy fwlch ynddi. Daliwch i ddilyn y llwybr ger gwaelod sawl gardd, ar draws nifer o draciau mynediad i lawr i’r lan. Cerddwch y tu cefn i hen gwt cwch, ac yn y diwedd fe ddowch i borth cul o flaen ffens balis (‘paling fence’) o goed castanwydden (‘chestnut’). Ewch drwy’r porth a throwch i’r dde i fyny llwybr caeedig (mae’r ffordd i’r chwith yn arwain at risiau i lawr i’r traeth).

Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr. Ar ôl cyrraedd camfa o’ch blaen, ewch i’r chwith heb fynd drosti, ac yn eich blaen ar hyd llwybr caeedig. Ar ôl cyrraedd cyffordd, ewch i’r dde ar hyd llwybr estyll. Fe ddowch allan ar lôn yn ‘Warren Point’, trowch i’r chwith ac ewch yn eich blaen i ddod allan ar lôn Aberhoccwn. Trowch i’r dde.

Ewch yn eich blaen i fyny’r lôn heibio Aberhoccwn a Fachell, ac ar ben y lôn, trowch i’r chwith. Ewch yn eich blaen ar y lôn hon, heibio gweddillion Eglwys St Meirian a’r porthdai wrth y fynedfa i Stad Bodorgan. Dilynwch y lôn rownd i’r dde ac ar ôl cyrraedd Capel Beulah, ewch yn eich blaen ar y lôn sy’n mynd i’r chwith ac yna i’r dde i ran syth sy’n arwain at y twyni a thrwy gilbyst cerrig addurnol.

I fynd i'r traeth

Mewn byr o dro, trowch i’r chwith oddi ar y lôn i fynd ar lwybr. Gan gadw wal gerrig fwy neu lai’n gyfochrog â chi ar y chwith, dilynwch y llwybr treuliedig drwy’r twyni i lawr i Traeth Mawr. Trowch i’r dde ar hyd y traeth, ac ar ôl cyrraedd yr aber, ewch i’r dde, gan ddilyn yr Afon Ffraw tua’r tir, i gyrraedd y maes parcio wrth ymyl yr hen bont yn Aberffraw. Ewch heibio’r rhwystr, trowch i’r chwith i fynd ar y lôn ac ewch dros yr hen bont.

I osgoi'r traeth

Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn at yr hen bont dros Afon Ffraw ym mhentref Aberffraw.