Disgrifiad o'r llwybr
Os ydych yn dod o gyfeiriad yr A4080, ewch i lawr y lôn fechan tuag at Y Fenai. Wrth flwch llythyrau, trowch i’r chwith i lawr lôn. Fel arall, o Foel y Don, â’r Fenai y tu ôl i chi, cymerwch y tro cyntaf i’r chwith. Ewch ymlaen ar hyd y lôn heibio ychydig o dai. Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn gan gadw i’r chwith wrth dro drwg a phasio ychydig o dai ar y dde i chdi.
Efallai na fydd modd defnyddio’r rhan isod o’r llbwyr am awr y naill ochr a’r llall i’r llanw uchel.
Penllanw
Trowch i’r dde i fyny tuag at fferm Porthamel. Ewch i’r chwith wrth fuarth y fferm i fynd ar drac heb wyneb arno. Ewch yn syth yn eich blaen ac mae’r llwybr yn ymuno â lôn ag wyneb arno, yn pasio nifer o ffyrdd mynediad i dai, gan gynnwys Bryn Llwyd, ac yn dod allan mewn cyffordd ‘T’. Trowch i’r chwith, ac yn fuan fe ddowch allan i lecyn glaswelltog a chyffordd wrth Eglwys Llanidan. Trowch i’r dde.
Distyll
Trowch i’r chwith, yna ewch i’r dde oddi ar y lôn, drwy giât ac i lawr trac rhannol gaeedig. Dilynwch y trac, ac ar y gwaelod ewch drwy’r giât a throwch i’r dde ar hyd y lan. Cyn cyrraedd y bwthyn ar ymyl y traeth, croeswch nant, yna ewch i’r dde i fyny trac. Dilynwch y trac rownd troad i’r dde, ac ar ôl ymuno â thrac arall, ewch yn syth yn eich blaen ac fe ddowch at dŷ ac Eglwys Llanidan. Ewch heibio’r eglwys, ac ar ôl cyrraedd llecyn glaswelltog yn y gyffordd, ewch i’r chwith.
Gyferbyn â’r mynediad i Fferm Llanidan, trowch i’r chwith dros gamfa i mewn i gae. Anelwch yn syth ar draws y cae, tuag at gornel ochr dde bellaf y coed o‘ch blaen. Ewch dros y gamfa, ac i’r dde ar hyd llwybr drwy’r coed. Ewch i’r chwith ar ôl cyrraedd llecyn agored, heibio’r cyfeirbost ac yna drwy giâr arall. Ewch i’r chwith ac yna i’r dde drwy’r giatiau dwbl, a dilynwch y llwybr ar hyd ymyl chwith cae. Ewch drwy ddwy giât arall ac yn eich blaen ar hyd ymylon y caeau. Ar ôl y giât nesaf, ewch yn syth yn eich blaen drwy ganol y cae gyda Plas Trefarthen ar y dde i chi. Ewch drwy ddwy giât arall o bobtu trac ac i mewn i gae. Croeswch y cae, drwy giât mochyn, ac ewch i’r chwith tuag at y coed pinwydd yn y gornel. Ewch drwy’r giât ddiwethaf, a throwch i’r dde ar hyd y lan. Yn fuan, fe ddowch i ffordd. Ewch yn syth yn eich blaen.
Ewch ymlaen heibio’r Sŵ Môr, ac o gyffordd yn y ffordd, daliwch i fynd yn syth yn eich blaen. Ewch heibio Fferm y Foel a hen dafarn y Mermaid Inn, ac mae’r lôn yn gorffen ar y lan. Dilynwch y lan, ac ar ôl oddeutu 600m, trowch i’r dde ac i fyny a thrwy giât. Croeswch lwybr ceffyl preifat, ac ewch yn syth yn eich blaen dros gamfa arall ac i fyny’r cae tuag at fferm Cae Mawr ar y gorwel. Ewch dros ddwy gamfa i ddod allan ar y lôn yn y fferm. Trowch i’r chwith. Ewch heibio dau drac, ac ar ôl cyrraedd lôn, trowch i’r dde.
Dilynwch y lôn am oddeutu 1 cilomedr hyd oni fyddwch yn mynd heibio nifer o dai, gan gynnwys Awel y Môr, ac yn union ar ôl rhes dai Glasfor, trowch i’r chwith drwy giât ar hyd trac glaswelltog. Ewch drwy set ddwbl o giatiau fferm, ac ewch i’r chwith i fynd dros gamfa risiog. Trowch i’r dde, ac ewch i fyny’r cae tuag at Tan-Twr. Ewch drwy giât, heibio’r tŷ, ar hyd y lôn ac allan o’r giât fynediad. Trowch i’r dde ar hyd lôn, ac yna’n fuan wedyn trowch i’r chwith i mewn i gae.
Ewch i fyny’r cae, dros gamfa gerrig, i ymuno â lôn a’i dilyn i fyny at Cae’r Llechau. Ar ôl cyrraedd y ty^, ewch i’r dde. Ewch drwy giât wen, heibio ychydig o gytiau fferm, ac ar hyd trac. O gyffordd yn y traciau, trowch i’r chwith, ac ewch i lawr trac caeedig. Lle mae’r trac yn troi i’r chwith, trowch i’r dde drwy giât mochyn. Yn y giât mochyn nesaf, trowch i’r chwith, ac ewch ar hyd y llwybr sydd wedi’i ffensio ar hyd ymyl y cae nesaf. Ewch drwy’r giât, trowch i’r chwith (i mewn i Dwyran) a thros gamfa.
Ewch yn syth ymlaen, croeswch ffos ddraenio a chan ddilyn nant ar y dde i chi, fe groeswch arglawdd mawr. Yn fuan, fe ddowch i lannau’r Afon Braint. Gan gadw’r afon a wal gerrig ar y dde i chi, fe ddowch at ffos ddraenio a phorth (fe welwch hen gamfa gerrig yn y wal ar y chwith i chi). Ewch drwy’r porth, a chan barhau i fynd ochr yn ochr â’r afon fe ddowch at ychydig o gerrig sarn (‘stepping stones’).
Llanw
Mae’r cerrig sarn yn cael eu heffeithio gan y llanw ac efallai na fydd modd eu croesi am awr y naill ochr a’r llall o’r llanw uchel. Rydym yn awgrymu eich bod yn edrych ar dabl llanw cyn cerdded y rhan hon o’r llwybr er mwyn osgoi’r broblem.
Croeswch nhw, gan fynd yn syth yn eich blaen, heibio dau dŷ, drwy giât, ac ymunwch â thrac syth i fyny at ffordd fawr. Trowch i’r chwith, ar hyd yr A4080 am ychydig, hyd at y gylchfan fechan. Ewch yn syth yn eich blaen, i gyrraedd y maes parcio yn Llyn Rhos-Ddu.