Disgrifiad o'r llwybr
O fae Porth Trwyn, cerddwch i fyny’r lôn heibio’r tŷ gwyn, a throwch i’r chwith ar hyd lôn. Ar ôl tua 125 medr, ewch yn syth yn eich blaen i fyny llwybr (mae’r ffordd yn ymddolennu i’r dde). Croeswch drac mynediad a thrwy giât mochyn i dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch yn eich blaen i lawr ac i fyny ychydig o risiau, drwy giât mochyn, ac anelwch i lawr yr allt tuag at dŷ mawr gwyn. Ewch drwy giât mochyn arall, ewch i’r dde, a thros ddwy bompren fechan.
Rydych nawr ym Mhorth Crugmor (‘Cable Bay’). Gan basio o flaen y tŷ gwyn, ewch yn eich blaen i fyny’r rhiw, drwy giât mochyn, croeswch gae, drwy giât mochyn arall ac ar hyd llwybr caeedig. Gan basio Porth Tyddyn Uchaf ewch yn eich blaen drwy giât mochyn, o gwmpas penrhyn (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Porth Swtan) ar hyd y llwybr ger y clawdd. Ewch drwy ddwy giât mochyn i ddod allan y tu ôl i gaffi ym Mhorth Swtan (‘Church Bay’).
Ar ôl ymuno â’r lôn, trowch i’r dde drwy’r giât mochyn wrth y ffordd i lawr i’r traeth. Dilynwch y llwybr caeedig, drwy’r giât ac i fyny’r cae gan ddilyn y gwrych ar y chwith i chi. Mae’r llwybr yn culhau, yn mynd drwy ddwy giât mochyn, (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Clegir Mawr) ac i fyny set o risiau. Dilynwch y clawdd ar y dde i chi ac ewch ymlaen drwy giât mochyn. Gan fynd drwy gae, ewch drwy giât fach, ac yna dros gamfa yn Ogof Lowri. Gan ddilyn clawdd unwaith eto, ewch i lawr ac i fyny ychydig o risiau a thros gamfa a phompren.
Rydych wedi cyrraedd Gwter Fudr. Ewch dros gamfa a cherddwch yn syth ar draws y cae nesaf, dros bompren, a thros gamfa arall. Croeswch gae arall, ewch i’r dde i mewn i bant, dros bompren arall ym Mhorth y Dwfr, a daliwch i fynd yn eich blaen. Daliwch i ddilyn y morlin (‘coastline’) (gan anwybyddu’r gamfa risiog fawr) gyda’r clawdd ar y dde i chi. Ym Mhorth y Nant ewch drwy giât, ac ewch i’r chwith (mae llwybr cyhoeddus yn cario ymlaen i fyny’r trac).
Anelwch i fyny’r rhiw, ychydig oddi wrth yr arfordir, gan anwybyddu’r llwybrau defaid bach ar hyd y llethrau arfordirol serth. Ewch drwy ddwy giât mochyn arall, dros y rhiw ac ar hyd y gefnen (‘ridge’) gan gadw oddi wrth y clogwyni. Gan fynd i lawr rhan serth, ewch drwy’r giât ac i lawr i’r traeth yn Ynys y Fydlyn.
1 Chwefror i 13 Medi
Croeswch y traeth, ewch drwy’r giât mochyn ac i fyny’r rhiw. Pasiwch drwy’r prysgoed (‘scrub’), gan gadw oddi wrth y clogwyni unwaith eto, i fynd i lawr i giât mochyn. Gan fynd i fyny drwy giât mochyn arall rydych nawr ym Mhorth yr Hwch. Ewch i fyny ar y penrhyn ac fe fydd Ynysoedd y Moelrhoniaid (‘Skerries’) a Maen y Bugael (‘West Mouse’) yn dod i’r golwg. Fel yr ewch ymlaen o gwmpas y penrhyn, fe fydd corn simnai yn araf ddod i’r golwg. Ceisiwch basio rhwng y corn simnai ac adeilad unig. Croeswch bompren dros ffos ac anelwch tua’r Dwyrain. Pasiwch o flaen yr isaf o’r ddau begwn gwyn (‘Two White Ladies’), i lawr i groesi camfa gerrig.
14 Medi a 31 Ionawr
Mae mynediad ar hyd arfordir i’r gogledd o Ynys y Fydlyn ar gau rhwng 14 Medi a 31 Ionawr
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi fynd i gyfeiriad y tir drwy gymryd y llwybr i gyfeiriad y dwyrain, gyda’r bae y tu cefn i chi, Llyn y Fydlyn ar eich chwith ac ar hyd terfyn coedwig. Ewch yn eich blaen i’r cyfeiriad hwn pan ddewch i dir agored. Ar ôl oddeutu 1 cilomedr/0.6 milltir, fe ddewch i faes parcio bychan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef ‘Mynachdy’. O’r fan hon, dilynwch y lôn i’r chwith am ychydig dros 1 cilomedr, 0.7 millr, gan basio mynedfeydd i nifer o ffermydd hyd oni ddewch at gyffordd gyda thriongl bychan o laswellt a blwch poso. Cymerwch y lôn fechan i’r chwith (arwydd dim ffordd drwodd arni) a dilynwch y lôn, heibio eiddo yn union ar y dde i chi gan fynd yn eich blaen hyd oni ddewch i iard Fferm Mynachdy.
Ewch heibio ychydig o adeiladau fferm ar y chwith i chi, yna cymerwch y trac caeedig i’r chwith, heibio’r adeiladau hyn a thrwy giât. Pan fydd y llwybr yn agor allan, arhoswch ar ochr chwith y pwll pysgod ac anelwch am gamfa yn y terfyn o’ch blaen. Ewch dros y gamfa, a dros un arall yn fuan wedyn ar y terfyn ar yr ochr chwith. Gan fynd yn eich blaen i gyfeiriad gogledd-orllewinol cyffredinol i’r terfyn nesaf, a chan sicrhau eich bod yn cadw i’r dde o gae bychan, fe ddowch at gamfa arall. Ewch dros y gamfa ac ewch yn syth yn eich blaen i un begwn (un o’r Two White Ladies) ac yna i lawr i bompren fechan. Yma, rydych yn ôl ar y Llwybr Arfordirol a byddwch yn mynd i gyfeiriad y dwyrain gan basio o flaen yr ail White Lady lle byddwch yn cario ymlaen ar y llwybr!
Ewch i lawr i bant, i fyny’r ochr arall a thuag at wal gerrig fawr â giât mochyn ynddi. Ewch drwy’r giât, i lawr i bant arall, dros bompren, ac i fyny i gae. Ewch rownd ymyl y ddau gae nesaf, heibio Porth yr Ebol a Phorth Gron. Ewch i’r dde i fynd ar lethr i lawr i fae bach ym Mhorth Padrig, dros bompren a thrwy giât mochyn. Unwaith eto, dilynwch ymyl y cae, rownd cefn Porth Newydd, ac ym Mhorth yr Ysgraff croeswch ffos ac ewch drwy giât mochyn. Gan ddilyn ymylon y cae, ewch drwy 3 giât mochyn ym Mhorth Tywodog, i fynd ar benrhyn. Wrth ddynesu at Hen Borth, ewch drwy giât mochyn, dros bont a thrwy ddwy giât mochyn arall gan groesi traeth Hen Borth. Ewch i fyny’r cae drwy giât mochyn ac i fyny at giât mochyn arall ar y gorwel. Dilynwch y clawdd ar y dde i chi ac ewch ymlaen drwy giât mochyn.
Ewch ar hyd ymyl y cae a thrwy giât mochyn arall (anwybyddwch y gamfa i fynd ar y lan), ac ar ôl mynd rownd y gornel ewch ymlaen drwy’r pum giât mochyn nesaf i ddod allan ar Drwyn Cemlyn. Trowch i’r dde a dilynwch y trac i’r maes parcio (Gorllewin Cemlyn).Ar ôl mynd i’r maes parcio o’r penrhyn, ewch i’r chwith rownd y llecyn â wal o’i gwmpas i groesi ceg lagŵn Cemlyn. Ewch ymlaen ar hyd y marian.
Am oddeutu awr y naill ochr a’r llall i’r llanw uchel, ni allwch groesi yn y fan hon, felly cariwch ymlaen ar hyd y lôn allan o’r maes parcio, heibio’r tŷ a chanddo wal o’i gwmpas a’r fynedfa at Ty’n Llan. Ewch i’r chwith yn y gyffordd, heibio Plas Cemlyn, ac ar ôl cyrraedd cyffordd y ffordd, trowch i’r chwith. Cymerwch y troad nesaf i’r chwith i gyrraedd y maes parcio (Dwyrain Cemlyn).Ewch ymlaen, allan o’r maes parcio, dros y gamfa a rownd y penrhyn, drwy giât arall, gan ddilyn y morlin. Ewch dros gamfa gerrig a throwch i’r dde ar hyd pen uchaf ymyl y traeth. Ewch ymlaen rownd cefn y bae, ar hyd trac ac i mewn i gae tuag at Felin Gafnan.
Ewch o flaen y felin, dros bont gerrig a thrwy giât mochyn. Croeswch gae tuag at dŷ, gan groesi trac mynediad, drwy giât mochyn a throwch i’r chwith. Dilynwch derfyn cae ar y chwith i chi, drwy giât arall. Trowch i’r dde (oddi wrth y tŷ) a dilynwch olion wal gerrig ar y dde i chi. Ewch drwy giât, a chadwch yn syth yn eich blaen. Gan fynd drwy giât arall, dilynwch drac heibio ychydig o hen adeiladau, drwy borth, i ddod allan drwy giât ar y lôn fynediad at Orsaf Bwêr yr Wylfa. Trowch i’r chwith, heibio’r Ganolfan Ymwelwyr, ac ar ôl ychydig, ewch i’r dde i mewn i lecyn o goedir ar hyd llwybr sydd wedi’i farcio ag arwydd. Ewch o dan beilon, i fyny set o risiau, ewch i’r dde lle mae’r llwybrau’n rhannu, ac i lawr drwy’r coed i ddod allan dros stepen i lôn. Trowch i’r chwith ac ewch drwy’r giât mochyn wrth ochr set o gilbyst mawr. Dilynwch y llwybr i fyny drwy’r coed, a thrwy’r giât ac i’r chwith.
Mae’r llwybr o gwmpas Trwyn yr Wylfa yn ddewisol felly, os ydych eisiau llwybr hirach, ewch i’r chwith a dilynwch y llwybr mewn cylchdaith o gwmpas y penrhyn, heibio Porth yr Ogof. Dilynwch y morlin tua’r dwyrain, gan droi tua’r de rownd cefn Porth Wylfa, drwy giât mochyn, ac ar draws cae. Ewch i’r chwith drwy giât mochyn ar hyd llwybr â gwrych o bobtu iddo. Ar ôl cyrraedd cyffordd yn y llwybrau, ewch drwy’r giât mochyn ac i’r chwith ar hyd yr arfordir. Ewch i lawr y rhiw, gan fynd i’r dde i osgoi ffynnon a ffos, ac ewch drwy set o gilbyst mawr. Trowch i’r chwith i fynd ar lôn.
Bron ar eich union, trowch i’r chwith unwaith eto, i lawr tuag at y môr. Trowch i’r dde, drwy giât mochyn, a dilynwch lwybr cul, yn agos at y clogwyni isel, i ddod allan ar lôn drwy fwlch yn y wal. Cariwch yn syth yn eich blaen, ac wrth ddynesu at dŷ mawr ar y penrhyn, dilynwch y llwybr caeedig ar y dde i chi, i ddod allan heibio bwthyn gwyn ar y chwith i chi. Trowch i’r chwith i lawr y rhiw i ddod allan ar Ffordd y Traeth. Trowch i’r chwith a cherddwch ar hyd y ffordd rownd y bae i ddod i mewn i Gemaes.
Pasiwch yr harbwr i ddod i Stryd y Bont. Trowch i’r chwith ar ei hyd, dros y bont ac ewch i’r chwith i lawr y ffordd i’r maes parcio.