Disgrifiad o'r llwybr
Croeswch bont Pontrhydybont, ac ar ôl cyrraedd ochr Ynys Cybi, trowch i’r chwith wrth ‘Lands End Cotage’ ar hyd glannau’r Lasinwen. Dilynwch ymyl y traeth rownd, drwy lecyn corslyd, dros ffos ddraenio a phibell goncrid. Fe ddowch i gae a chanddo ffens ddwbl, ond anwybyddwch hwn a daliwch i fynd ar hyd ymyl y traeth i ddod at wal a’i dilyn.
Ewch i’r dde rhwng brigiad (‘outcrop’) mawr o gerrig ar y lan a llinell y ffens, tuag at giât ac yna ewch i’r chwith drwy lecyn o dyfiant. Ewch i’r dde o gwmpas cefn y gilfach (‘inlet’), oddi wrth y lan drwy lecyn o dyfiant, ac yn fuan fe fyddwch yn mynd i’r chwith drwy giât mochyn wrth borth bwaog i ardd breifat. Ewch ymlaen ar hyd llwybr caeedig, heibio adeilad gwyn Penrhyn Fadog ar y dde i chi. Trowch i’r chwith allan o berllan dros gamfa mochyn i mewn i gae.
Trowch i’r dde i fyny’r cae i gyfeiriad Fferm Rhyd y Bont. Yn fuan wedyn wrth ffens pyst a rheiliau, ewch drwy giât fechan, drwy lecyn bach caeedig, a dwy giât fechan arall i basio rhwng ysgubor (ar y dde i chi) a chwt arall. Ar ôl dod allan rhwng yr adeiladau, ewch yn syth yn eich blaen drwy borth, yna trowch i’r chwith, i gerdded rownd cefn y t^y fferm. Fe fyddwch yn ymuno â lôn, gan basio drwy gilbyst cerrig, i ddilyn prif lôn y fferm heibio pwll i ymuno â lôn. Trowch i’r chwith ar hyd y lôn.
31 Ionawr i 1 Hydref yn unig
Yn fuan ar ôl giât y porthdy at Stad Bodior, trowch i’r chwith i fynd ar lwybr drwy giât. Dilynwch y llwybr clir ar hyd y llwybrau bordiau a’r trac sydd wedi’i dorri drwy goetir i ddod allan ar lôn. Trowch i’r chwith.
Yn Ystod y Gaeaf – ar hyd y ffordd
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd heibio Plas Iago ar y dde i chi, ac o gyffordd, trowch i’r chwith (fe welwch yr arwydd i Barc Carafannau ‘Silver Bay’). Ar ôl pasio’r fynedfa at Fythynnod Gwyliau Tŷ Lôn, trowch i’r chwith i fyny trac.
Ewch ymlaen i fyny’r lôn/trac, gan basio pen deheuol y rhan lle cyfyngir mynediad iddi. Pasiwch dros grid gwartheg i ymuno â thrac heb wyneb arno i lawr i fferm Bryn-y- Bar. Yn union i’r chwith o giât y fferm, ewch dros y gamfa gerrig, drwy lecyn caeedig, a thrwy giât. Ewch i’r dde, gan basio o flaen y t^y fferm, ac anelwch ar draws y cae tua’r coetir, i gyfeiriad y mynyddoedd yn y cefndir. Ewch drwy giât mochyn yng nghornel y cae ac ymunwch â llwybr caeedig i fyny i’r coetir. Ewch i’r dde, ac yna bron ar eich union i’r chwith drwy giât mochyn i mewn i’r caoetir. Dilynwch y llwybr sydd wedi’i ffensio drwy’r coed i ddod allan yn Nhraeth Llydan (‘Silver Bay’). Trowch i’r dde ar hyd y traeth.
Ewch i’r dde i fyny trac i le parcio. Trowch i’r chwith allan o’r lle parcio, tuag at y faner las, i fynd ar drac graeanog ar benrhyn. Yn fuan wedyn, ewch i’r dde oddi ar y trac i fynd ar lwybr. Ewch heibio cilfach Porth yr Ych, a daliwch i ddilyn yr arfordir, dros ddau lwybr bordiau tua’r gorllewin. Dilynwch lwybr drwy eithin yn gyfochrog â chilfach serth gul, drwy giât, ac i’r chwith ar draws cae. Ar ôl cyrraedd llecyn arall o eithin, ewch i’r dde i lawr y rhiw i groesi tair pont sliperi (‘sleeper bridge’) y tu cefn i Borth Gorslwyn. Ewch drwy’r giât mochyn, i’r chwith, ac allan ar benrhyn. Dilynwch y llwybr rownd cefn Porth Cae-du, drwy hen gorlan gerrig i fynd ar benrhyn grugog.
Pasiwch i’r chwith o frigiad caregog, ac o gwmpas y penrhyn. Gan anelu dros gefnen, fe ddaw bae Borthwen i’r golwg. Ewch i’r dde i gyfeiriad ychydig o fythynnod.
Anwybyddwch y giât fechan a chanddi ‘PRIVATE’ arni ym Mhlas Escob, gan anelu i’r dde o’r tŷtir at giât mochyn. Ar adeg ysgrifennu hyn, nid yw’r rhan nesaf yn llwybr cyhoeddus, ond mae deiliad y tir yn fodlon i gerddwyr fynd ar ei hyd. Ymunwch â’r trac, ewch heibio Borth Escob, ac o gyffordd ‘T’ trowch i’r chwith. Dilynwch drac caeedig, drwy giât werdd, ac ar ôl cyrraedd croesffordd yn y llwybrau.
Pan fo’r llanw ar drai
Trowch i’r chwith i lawr i’r traeth a chroeswch y traeth.
Pan fo’r llanw i mewn
Ewch yn syth ymlaen, i ddod allan ar lôn wrth Glan Towyn, sy’n darparu Gwely a Brecwast. Trowch i’r chwith, ewch drwy’r maes parcio, a throwch i’r dde i fyny ar hyd top morglawdd o gwmpas cefn y Bae.
Anelwch i fyny’r ramp oddi ar y lan, a dilynwch y trac heibio nifer o fythynnod. Ewch i’r dde i fyny’r allt drwy set o gilbyst cerrig a farciwyd Bryn Eithin, ac yn union cyn Yr Allt ewch i’r dde drwy fwlch, gan fynd i’r chwith drwy ardd. Ar ôl cyrraedd cyffordd, ewch i’r chwith, a dilynwch lwybr caeedig i lawr heibio ‘The Point’. Croeswch lôn, ac ewch drwy’r giât mochyn. Ewch yn syth yn eich blaen, gan fynd i’r chwith rownd y wal gerrig ar y dde i chi, at y giât mochyn nesaf. Anelwch i fyny’r bryn tuag at yr wylfan ar y copa. Pasiwch hon ar y chwith i chi, ac ewch i lawr yr ochr arall, gyda wal ar y dde i chi, i lawr heibio Ffynnon Santes Gwenfaen. Ewch drwy giât mochyn arall, a dilynwch wal gerrig fawr rownd Mynydd Rhoscolyn (‘Rhoscolyn Head’) at Borth Saint.
Ym Mhorth Saint ewch drwy giât mochyn, i lawr ychydig o risiau, gan anwybyddu’r llwybr sy’n mynd i’r dde, a daliwch i ddilyn yr arfordir. Ewch i’r chwith i fyny’r bryn, ac ar ôl mynd dros ael y bryn, ewch yn syth yn eich blaen. Gan basio Bwa Gwyn, fe fyddwch yn mynd i lawr y bryn, heibio cofeb i ‘Tyger’ y ci, ac ewch dros gamfa.
Pasiwch Bwa Du, ewch dros gamfa arall a sarn (‘causeway’) cerrig bach. Gan basio Cefn y Berth ar y chwith i chi, ewch drwy fwlch yn y wal ac mae’r llwybr yn agor allan. Ymunwch â’r lôn, gan fynd i’r dde oddi wrth y tŷ, dros gamfa wrth y giaau mynediad, ac ewch i’r chwith i fynd ar benrhyn ochr yn ochr â wal.
Ewch drwy giât mochyn yn y bae yn union i’r de o Borth y Garan, gan fynd rownd cefn y bae, ac anelwch i fyny’r bryn ochr yn ochr â wal gerrig ar y dde i chi. Pasiwch bwll bach ar y chwith i chi, giât fechan ar y dde, a dilynwch y trac i ddod allan drwy gilbyst cerrig ym Mhorth y Garan. Ewch i fyny at y giât mochyn i ddod allan ar lôn fynediad o fewn parc carafannau. Croeswch y ffordd, i fyny set o risiau, ac i’r chwith ar hyd llwybr treuliedig sy’n dilyn y morlin (‘coastline’). Ewch i’r dde i ddod i fyny tuag at brif ffordd fynediad y parc carafannau, gan basio i’r dde o wal gerrig. Trowch i’r chwith ar hyd y trac, drwy’r giaau, ac ymunwch â’r ffordd.
Dilynwch y ffordd, heibio Porth Castell a Phorth Diana (fe allwch gymryd y llwybr sydd wedi’i ganiatáu o gwmpas y penrhyn, i’r gogledd o Borth Diana, fel trywydd mwy difyr na’r ffordd, os ydych yn dymuno) tuag at Drearddur, heibio gwesty’r Seacroft Hotel. Trowch i’r chwith i fynd ar y promenâd rownd cefn Bae Trearddur.