Traethau
A gan fod hon yn ynys gyda 125 o forlin arbennig, mae dewis da o draethau ar Ynys Môn.
Os yw diwrnod da ar y traeth yn golygu mynd â phentwr o beli, bwcedi, rhawiau a rhwydi pysgota gyda chi neu baratoi picnic blasus a mwynhau’r harddwch o’ch cwmpas, yna does dim i guro ein traethau ni.
O draethau tywodlyd hir fel Traeth Coch lle mae’r môr, y tywod a’r awyr yn ymestyn i’r pellter, i faeau creigiog mwy cartrefol fel Porth Dafarch neu Borth Swtan, lle mae llwybrau ar y clogwyni a phyllau glan môr i chi chwilota ynddynt.
Gallech osod her i chi’ch hun trwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth codi castell tywod ym Menllech, gwisgo eich siwt wlyb a mentro i’r môr i hwylfyrddio ym Mae Trearddur a Rhosneigr, neu ddarganfod hanes Santes Dwynwen a rhyfeddu at olygfeydd godidog Eryri wrth i chi rwyfo i Ynys Llanddwyn.