Ysbrydoliaeth
Mae gan Ynys Môn lawer i’w gynnig. Mae'n lle sy’n ysbrydoli, lle sy’n apelio at yr holl synhwyrau - lle i weld, clywed, blasu, arogli a theimlo. Mae’n lle i ddianc rhag prysurdeb bywyd. Ond yn bennaf oll, mae Ynys Môn yn lle i fynd allan a gwneud pethau!
O’r funud yr ydych yn croesi un o’r pontydd fe welwch dirweddau trawiadol, morliniau arbennig a threfi a phentrefi hardd i ymweld â nhw. Mae milltiroedd o lwybrau cerdded a beicio ar hyd yr arfordir, yn ogystal â rhai o’r gweithgareddau dŵr gorau.
Mae cymaint i’w ddarganfod, o ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog yr ynys i’r tirweddau anarferol sy’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt arbennig.
Mae llawer o’n morlin wedi ei ddynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), a waeth beth fo’r tywydd, mae ein traethau gwych yn cynnig rhywbeth i bawb - ardaloedd eang o dywod, cyfle i blant nofio’n ddiogel a baeau gwyntog lle gallwch gerdded a chael awyr iach neu chwilio yn y pyllau glan môr.
Dewch i weld drosoch eich hun, peidiwch â chymryd ein gair - dewch i ddarganfod Ynys Môn.