
Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Sir Ynys Môn: croesomon.co.uk
Mae gwefan Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio cod HTML a steiliau CSS dilys. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod y safle mor hygyrch â phosib i bawb a’i bod yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) a Menter Hygyrchedd y We (WAI) y W3C. Mae’r safle’n defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun tudalennau gwe fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol.
Pa mor hygyrch ydi’r wefan
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu gwneud y pethau canlynol:
- newid lliw, lefelau cyferbynnedd a ffont
- chwyddo’r cynnwys 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio drwy'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod testun y safle mor syml â phosib fel ei fod yn ddalladwy.
Adborth a manylion cyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â digidol@ynysmon.llyw.cymru
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- digidol@ynysmon.llyw.cymru
- ffoniwch 01248 750 057
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 15 diwrnod.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw rhai delweddau o fapiau yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
- Efallai y byddwn yn cyhoeddi dogfennau a fwriadwyd ar gyfer eu hargraffu ac nad ydynt yn hygyrch os yw'r un wybodaeth ar gael mewn fformat hygyrch o fewn y dudalen we sydd ynghlwm wrthi.
Baich anghymesur
Ddim yn berthnasol. Nid ydym yn honni bod unrhyw faterion hygyrchedd yn afresymol i’w datrys.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw rhai delweddau o fapiau yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.
Sut rydym wedi profi'r wefan hon
Mae'r profion yn cynnwys profion awtomataidd wythnosol ynghyd â gwiriadau cydymffurfiaeth â llaw.
Rydym yn profi’r prif blatfform y wefan, sydd ar gael yn https://www.croesomon.co.uk.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwneud y wefan yn fwy hygyrch.
- Ein nod yw cael cyn lleied o ddogfennau PDF â phosib ar ein gwefan trwy weld os oes modd i’r cynnwys gael ei ychwanegu fel tudalen we neu ddogfen HTML.
- Rydym yn gweithio gyda'n gwasanaethau i godi ymwybyddiaeth o'r angen i gwrdd a rheoliadau hygyrchedd.
- Byddwn yn parhau i ddatblygu ymwybyddiaeth o fewn y cyngor ynglŷn â hygyrchedd i wneud yn siŵr bod cynnwys yn hygyrch cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.
- Rydym yn rhedeg gwiriad hygyrchedd awtomatig drwy'r safle pob wythnos (gan ddefnyddio ein partner trydydd-parti Siteimprove) a gweithio gyda staff y gwasanaethau i drwsio unrhyw faterion.
- Byddwn yn archwilio siwrneiau defnyddwyr yn rheolaidd i weld a ydynt yn hygyrch.
- Byddwn yn parhau i weithio â chyflenwyr trydydd parti i wneud yn siŵr bod eu meddalwedd yn hygyrch.
Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Digidol digidol@ynysmon.llyw.cymru
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Mae'r profion yn cynnwys profion awtomataidd wythnosol ynghyd â gwiriadau cydymffurfiaeth â llaw.
Fe wnaethon ni brofi prif blatfform y wefan, sydd ar gael yn https://www.croesomon.co.uk/
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Ionawr 2024. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2025.
Mae'r tudalennau gwe yn cael eu profi'n rheolaidd gan Siteimprove.com