Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Dynes ar y traeth yn barod i fynd i hwylio

BActive@Rhoscolyn

Dynes ar y traeth yn barod i fynd i hwylio

Mae B-Active@Rhoscolyn yn ddarparwr gweithgareddau awyr agored ar Ynys Môn

Mae B-Active@Rhoscolyn yn ddarparwr gweithgareddau awyr agored ar Ynys Môn a gynhelir gan Andy Short ac yn arbenigo mewn caiacio a chaiacio môr.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd caiacio môr o amgylch arfordir trawiadol Ynys Môn. P'un a ydych yn meddwl am roi cynnig ar gaiacio am y tro cyntaf, yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau, neu dim ond eisiau arweinydd profiadol ar gyfer taith anturus.

Rydym hefyd yn cynnig gwersi caiacio i bobl ifanc a theuluoedd. Os ydych yn teimlo am fod yn egnïol beth am roi cynnig ar gaiacio? Beth bynnag yw eich oedran, cefndir neu lefel sgiliau, gallwn ddarparu profiad diogel a chyffrous.

Mae B-Active yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored. O ein safle yn Outdoor Alternative rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer grwpiau, gan gynnwys: caiacio, caiacio môr, adeiladu rafft, arfordiro, cyfeiriannu, diwrnodau adeiladu tîm a helfeydd trysor. Mae rhywbeth i bawb!

Lle gwell i wneud hyn nag yn Rhoscolyn ar arfordir Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae'r ardal wedi'i ddynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gydag arfordir garw, traethau tywodlyd a chlogwyni i'w cerdded.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt

Rhif ffôn: 07833 424046

Cyfeiriad

B-Active@Rhoscolyn Andy Short c/o Outdoor Alternative Rhoscolyn Caergybi LL65 2NQ

Ymweld a'r wefan

https://b-active-rhoscolyn.co.uk/

Mwynderau

  • Croeso i grwpiau

gerllaw...