
Cylchdaith Biwmares

Disgrifiad o daith gylchol yn Biwmares, ar arfordir y dwyrain Ynys Môn.
Pellter: 3 cilometr / 1.8 milltir
Anhawster: Hawdd
Taith gymedrol ydy hon o gwmpas tref lan môr hanesyddol Biwmares. Gan ddechrau wrth y Pier â’i olygfeydd urddasol dros y Fenai, mae’r daith hon yn mynd â chi i sawl un o uchafbwyntiau’r dref heibio hen fythynnod lliw pastel, siopau o safon a thafarnau hynafol.
Cyfarwyddiadau
Y Pier at y Llys
Cerddwch i ben y Pier a syllwch ar y golygfeydd; o’ch blaen, ceir mynyddoedd Eryri, ac i’r dde, ar y lan gyferbyn, ceir dinas Bangor. Ar y chwith i chi, gallwch weld Pen y Gogarth a Llandudno.
Ewch yn ôl i lawr y pier, gan sylwi ar y Simnai Restredig Gradd II ar y chwith, a theras crand Victoria Terrace ar y dde. Ar y Grîn, fe welwch gylch cerrig.
Croeswch y ffordd yn ofalus, ac ewch yn syth ymlaen i lawr y ffordd gul, gan anelu at y porth bwaog i gerddwyr o dan Neuadd y Dref.
Fe ddowch allan ar Stryd y Castell, lle cewch bob math o siopau a bwytai. Fe welwch y Tudor Rose gyferbyn â chi.
Trowch i’r dde heibio Gwesty’r Bulkeley ac, ar y chwith, tafarn The Bulls Head. Pan gyrhaeddwch y sgwâr, ewch tua ochr dde’r Llys.
Y Llys i Borth Bulkeley
Croeswch y ffordd a cherddwch at y groesfan i gerddwyr. Croeswch yma a mynd i mewn i’r gerddi, ewch rownd llwybr y perimedr a rhyfeddwch wrth weld wal ddwyreiniol y Castell.
Ewch allan o’r parc ac yn ôl rownd y Llys.
O’r sgwâr, croeswch y ffordd yn ofalus a cherddwch heibio Siop Anrhegion y Castell.
Dilynwch y ffordd rownd i’r chwith. Cynhelir Marchnad Grefftwyr reolaidd o flaen y Ganolfan Gymunedol. Gyda’r Eglwys Gatholig ar y dde, ewch ymlaen i fyny Rating Row.
Yn y gyffordd, trowch i’r dde, a dilynwch y ffordd i ben y bythynnod lliw pastel. Croeswch y ffordd ac ewch i lawr Stryd Stanley yn lle gwelwch adeiledd cerrig Porth Bulkeley yn y pen.
Porth Bulkeley i’r Pier
Dilynwch y ffordd rownd i’r dde mor bell â Ffordd Meigan ar Ystâd Cae Brics, yna trowch ac ewch yn ôl.
Cyn y Porth, trowch i’r dde i lawr Stryd y Carchar.
Yn y gyffordd, ewch i’r chwith i lawr Stryd Newydd, ac i’r dde yn y pen, i lawr Steeple Lane.
Ewch drwy’r porth bwaog i mewn i fynwent Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas. Ewch o amgylch yr eglwys, allan o’r fynwent, yn ôl drwy’r porth bwaog, ac i’r chwith, gan fynd i lawr Steeple Lane.
Ar y dde, ceir wal berimedr Llys hanesyddol y dref. Ewch ymlaen i lawr Steeple Lane, trowch i’r dde i lawr Stryd y Capel, sy’n gul, ac yna i’r chwith i lawr Lôn Gadlys.
Trowch i’r chwith eto, heibio’r Liverpool Arms ar y chwith, a cherddwch ar hyd Stryd y Castell yn ôl i’r porth bwaog o dan Neuadd y Dref.
Gyferbyn â’r Neuadd, ceir Stryd yr Eglwys yn lle mae’r George & Dragon, a Sgwâr y Farchnad.
Cerddwch yn ôl drwy’r porth bwaog i fan cychwyn eich taith wrth y Pier.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Safleoedd dethol
- Agorwyd y Pier ym 1846 ac, yn dilyn storm, fe’i hadeiladwyd a’i hymestyn i 170m ym 1872. Am flynyddoedd lawer, byddai’n gwasanaethu stemars yn ôl a blaen o Landudno a Lerpwl. Yn 2011, cafodd ei adnewyddu fel rhan o brosiect £2m mawr.
- A hwnnw heb ei gorffen, y bwriad oedd mai’r Castell hwn fyddai’r un mwyaf, a mwyaf datblygedig yn ei gyfnod. Wedi’i adeiladu gan Edward I rhwng 1295 a 1330, mae’n cynnwys amddiffynfa o bedwar llinell gonsentrig gymesur. Dyma un o ddim ond pump o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru
- Er ei olwg hynafol, fe adeiladwyd y Cylch Cerrig ar y Grîn ym 1995 i nodweddu Eisteddfod Gadeiriol Môn a gynhaliwyd yno’r flwyddyn wedyn.
- Ar ôl ei gwblhau ym 1948, datblygiad gwobrwyedig Ystâd Cae Brics o 30 o dai, oedd meincnod tai fforddiadwy o safon y cyfnod ar ôl y rhyfel. Ymwelodd Aneurin Bevan â safle’r gwaith adeiladu dair gwaith.
- Roedd adeilad presennol Neuadd y Dref wedi cymryd lle neuadd o oes Elisabeth ym 1785. Dywedwyd unwaith mai ei hystafell fawr ar y llawr cyntaf oedd “the most splendid ballroom in North Wales”.
- Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas yn dyddio o 1330. Mae corff yr eglwys yn wreiddiol, ond cafodd sawl rhan ei hailfodelu dros y blyny-ddoedd. Honnid bod yr arch garreg yn y Portsh yn perthyn i’r Dywysoges Siwan (a fu farw ym 1237), sef gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru.
- Yn dyddio o’r 1480s, y ‘Tudor Rose’ ydy un o’r adeiladau â ffrâm goed hynaf ym Mhrydain. Mae’n ein hatgoffa o sut y byddai’r rhan fwyaf o Stryd y Castell ar un adeg.
- Adeiledd trawiadol Porth Ystâd Bulkeley oedd y fynedfa ar un adeg i ystâd Baron Hill, a sefydlwyd ym 1618.
- A hwnnw bellach yn amgueddfa, adeiladwyd y Llys ym 1614, a dyma’r llys hynaf yng Nghymru.
- Fe gafodd yr hen garchar ei drawsnewid yn amgueddfa, ac mae’n rhoi mewnwelediad diddorol iawn i fywyd carchar yn oes Fictoria. Wedi’i adeiladu ym 1829 a’i ymestyn ym 1867.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Man cychwyn
Mwynderau
- Caffi.
- Parcio ar gael.
- Lluniaeth
- Bwyty
- Siop
- Toiledau