Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Dau feiciwr ar y bont ym Malltraeth yn edrych allan i'r môr gyda'r llanw allan nesa i Venezuela

Gors Malltraeth

Dau feiciwr ar y bont ym Malltraeth yn edrych allan i'r môr gyda'r llanw allan nesa i Venezuela

Mae Cors Ddygai, neu Gors Malltraeth yn nodwedd drawiadol a phwysig yn y tirwedd ac yn ffurfio rhan o orlifdir yr Afon Cefni

Mae Cors Ddygai, neu Gors Malltraeth yn nodwedd drawiadol a phwysig yn y tirwedd ac yn ffurfio rhan o orlifdir yr Afon Cefni. Mae tua 3 milltir i’r de o Langefni a gellir mynd yno oddi ar yr A5 ychydig i’r gogledd orllewin o Bentre Berw. Gellir gweld y warchodfa o lwybr/llwybr beicio Lôn Las Cefni ac mae nifer o lwybrau yn croesi’r safle. Mae’r gors yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) gyda’r rhan ogledd ddwyreiniol yn cynnwys gwarchodfa gan y Gymdeithas Gwarchod Adar. Y blaenoriaethau penodol yma yw rheoli’r cynefinoedd ar gyfer cornchwiglod ac aderyn y bwn sy’n magu. Roedd galwadau ymchwyddol digamsyniol ceiliog aderyn y bwn yn gyffredin unwaith a thra mae’r adar cyfrinachgar hyn sydd angen y gwelyau hesg yn aml yn treulio’r gaeaf yma, y gobaith yw y byddant yn aros i fridio.

Mae’r gors yn cynnal niferoedd mawr o adar sy’n magu sy’n cynnwys y gïach, y pibydd coesgoch, y gylfinir, bras y cyrs, yr hwyaden gopog, hwyaden yr eithin, yr hwyaden lydanbig, yr alarch dof ac o leiaf bedair rhywogaeth o deloriaid; y troellwr bach, telor yr hesg, telor y cyrs a thelor Cetti. Mae’r bwncath a’r cudyll coch ac o bosib boda’r gwerni hefyd yn magu yma. Mae ymwelwyr yr haf gan gynnwys y rhostog gynffon ddu a’r pibydd torchog.

Mae’r gors yn fan bwydo hanfodol i rydwyr ac adar hela sy’n mudo ac yn gaeafu yma, gan gynnwys poblogaeth bwysig yr ardal o’r hwyaden lostfain. Mae’r gwely hesg eang a’r system o gorsydd, glaswelltir gwlyb , llynnoedd a phyllau sy’n cynnal fflora anhygoel o amrywiol. Mae’r rhywogaethau pwysicaf yn cynnwys pefrwellt, llyriad y dŵr a’r cleddlys canghennog yn ogystal â melyswellt y gamlas, y llynwlyddyn corniog, y frwynen flodeuog, pluddail y dŵr, rhawn y gaseg a’r serenllys llwydlas sy’n bwysig yn lleol. Mae’r belenllys gronynnog a brigwlydd y cynhaeaf, sy’n brin yn genedlaethol, hefyd yn tyfu yma. Mae gan y warchodfa gasgliad cyfoethog o weision neidr a mursennod, gan gynnwys y tair rhywogaeth sy’n brin yn genedlaethol: gwas y neidr blewog, y fursen las amrywiol a’r fursen dinlas fach. Mae Cors Ddygai neu Gors Malltraeth yn nodedig fel un o safleoedd pwysicaf gogledd orllewin Cymru am lygoden bengron y dŵr sy’n prinhau’n gynyddol.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol


Cyfeiriad

Malltraeth, Ynys Môn

Mwynderau

  • Parcio ar gael.
  • Cyfeillgar i deuluoedd

gerllaw...