
Bywyd Gwyllt Ynys Lawd

Os ydych eisiau’r cyfle i brofi golygfa wefreiddiol o filoedd o adar môr yn nythu yn ystod y gwanwyn a’r haf, yna mae’n rhaid ymweld ag Ynys Lawd!
Mae Ynys Lawd yn un o’r tirweddau mae’n rhaid ei weld.
Tirwedd
Mae ar Ynys Cybi a hwn yw man mwyaf gorllewinol Ynys Môn, tua 3 milltir o Gaergybi. Mae’r clogwyni ar Ynys Lawd yn cynnal cytrefi mawr o adar môr. Mae’n bosibl eu gweld o arsyllfa Tŵr Elin sydd ym mherchnogaeth y Gymdeithas Gwarchod Adar. Mae gan y warchodfa hefyd ganolfan ymwelwyr a chaffi a digon o le parcio.
Mae gan yr ardal forlun rhyfeddol, gyda golygfeydd godidog o Ben Llŷn ac Ynys Enlli. Mae hyd yn oed yn bosibl i weld mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon ar ddiwrnod clir!
Gellir gweld y clogwyni môr aruthrol sy’n 300 troedfedd neu’n 100m o uchder o’r llwybr sy’n arwain at y goleudy. Credir fod y ffurfiannau creigiau plyg a ffawtiedig yn dod o gyfnod Cambriaidd, er bod eu gwreiddiau wedi bod yn bwnc llawer o ddadlau dros y blynyddoedd.
Mae’r ardal yn cynnwys llawer o safleoedd archaeolegol diddorol, gan gynnwys cytiau crynion Tŷ Mawr sy’n cynnwys 8 o ffermydd bach, yn dyddio o ryw 4000 o flynyddoedd yn ôl. Mae yma hefyd systemau caeau diddorol sy’n amlwg ar y pentir i dde ddwyrain Ynys Lawd.
Bywyd gwyllt
Wedi ei lleoli ar arfordir gogledd orllewin Ynys Cybi, gellir mynd yno’n uniongyrchol o Lwybr Arfordirol Môn.
Mae maes parcio mawr yng ngwarchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar sydd wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr a’r caffi. Mae cytref adar môr enfawr Ynys Lawd yn gartref i nifer o wahanol rywogaethau gan gynnwys gwylogod, llursod, palod a gwylanod coesddu a gwelir adar drycin Manaw a huganod oddiar yr arfordir yn achlysurol.
Mae hebogiaid tramor a brain coesgoch hefyd yn nythu yn Ynys Lawd.
Gallwch gael lluniau agos, syfrdanol o adar yn nythu yn Nhŵr Elin ble mae ysbienddrychau, telesgopau a lluniau byw o deledu cylch cyfyng yn cael eu hanfon yn uniongyrchol o wyneb y clogwyni!
Mae gan Ynys Lawd hefyd yr ardal fwyaf o rostir morol yng ngogledd Cymru ble mae nifer helaeth o blanhigion fel clustog Fair, plucen felen, seren y gwanwyn, serenllys mawr, melog y cŵn, y gludlys arfor a’r ganrhi goch arfor.
Rhai o’r planhigion prin y gellir eu gweld yno yw’r cor-rosyn rhuddfannog (blodyn Sir Fôn), a chweinllys Ynys Cybi – nad yw’n tyfu yn unman arall yn y byd ac eithrio Ynys Cybi! Mae’r clogwyni creigiog, serth sydd wedi eu gorchuddio â grug yn cynnal y frân goesgoch a’r hebog tramor ac maent yn nythu yma, ac yn ystod yr haf gall yr awyr fod yn llawn cân bersain yr ehedydd.
Yn ogystal â’i gasgliad chwedlonol o adar mae Ynys Lawd yn lle da i weld ymlusgiaid gan gynnwys y wiber a’r fadfall gyffredin y gallwch eu gweld – os ydych yn dawel – yn torheulo mewn mannau heulog ar y rhos.
Mae hefyd llawer o wahanol fathau o löynnod byw a gwyfynod gan gynnwys y glesyn serennog, y gwibiwr mawr, britheg berlog fach, cwcwll mochysgall, yr ermin gwyn a’r gem smotiau aur. Efallai hefyd y gwelwch y carlwm a’r wenci yn chwarae ar y rhostir.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
South Stack, Holyhead
Mwynderau
- Taliadau cerdyn.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Parcio ar gael.