
Canolfan Dreftadaeth Cemaes

Mae’r ganolfan newydd yn cynnig profiad treftadaeth newydd lle gall ymwelwyr ddysgu am orffennol Chemaes a Llanbadrig
Cemaes yw’r pentref mwyaf gogleddol yng Nghymru. Yn yr amser a fu enw’r pentref oedd Porth Wygyr a chyfeiriwyd ato yn ystod y canol oesoedd fel un o borthladdoedd prysuraf yng Nghymru. Erbyn heddiw mae Cemaes yn bentref tawel, ond ar un adeg roedd yn borthladd bywiog lle'r oedd briciau, ocr a chalch yn cael ei allforio a phopeth a oedd ar y gymuned ei angen yn cael eu cludo i mewn.
O’r amseroedd cynnar yn dilyn yr oes ia diwethaf pan sefydlwyd aneddiadau cyntaf yng Nghemaes. Mae’r daith yn mynd ymlaen i gyflwyno cysylltiad Cemaes â Thywysogion Cymru hyd at y cyfnodau mwy diweddar sy’n cynnwys treftadaeth gyfoethog forwrol a diwydiannol Cemaes.
Mae’r ganolfan yn adrodd hanes treftadaeth Cemaes trwy lygaid rhai o gymeriadau mwyaf diddorol yr ardal - Portreadau Cemaes. Mae’r ganolfan hefyd yn arddangos casgliad o waith celf gan lawer o arlunwyr sydd wedi ei denu at liwiau cyfnewidiol y môr a threftadaeth gyfoethog y pentref.
Ail agorwyd y ganolfan ar 30 Ebrill 2015 gan Gwmni Cemaes sydd wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr o’r gymuned i greu arddangosfa barhaol ac ystafell gynhadledd/hyfforddi sydd ar gael i’w llogi.
Mae Caffi Banc yn cynnig ystod eang o fwydydd cartref, coffi barista, te arbenigol a chynnyrch heb glwten. Beth am ddod draw i ymlacio yn yr ardd sy’n edrych dros yr afon Wygyr. Mae croeso i gwn yn yr ardd.
Mae Canolfan Dreftadaeth Cemaes yn bwynt gwybodaeth Croeso Cymru sy’n cynnig gwybodaeth i ymwelwyr ynglŷn â lle i aros, beth sy’n mynd ymlaen yn yr ardal a sut i gael o gwmpas yr ardal hon.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
36 Stryd Fawr, Cemaes, LL67 0HL
Ymweld a'r wefanhttps://cemaesheritagecentre.org/
Mwynderau
- Caffi.
- Hygyrch i'r anabl.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw