Bydd ein 5 milltir o lwybrau marchogaeth preifat yn rhoi cyfle gwych a diogel i chi brofi marchogaeth am y tro cyntaf, ac rydym yn sicr y bydd marchogion mwy profiadol yn cael digon o her yma hefyd.
Rydym yn darparu ar gyfer pob gallu, o rai sydd erioed wedi marchogaeth o’r blaen i rai sydd wedi bod yn marchogaeth ceffylau ers blynyddoedd. Mae ein hysgol farchogaeth dan do yn cynnig y cyfleusterau perffaith i chi wella eich sgiliau a pharatoi i wynebu pa bynnag her sydd gennych mewn golwg, beth bynnag yw’r tywydd.
Mae Canolfan Farchogaeth Ynys Môn wedi ei chymeradwyo’n llawn gan y British Horse Society (BHS) a’r Pony Club fel Canolfan Farchogaeth Pony Club.
Yn ogystal mae yma Stablau Hurio wedi eu cymeradwyo gan y BHS ac mae’n ganolfan i’r Anglesey Riding for the Disabled Association (RDA).