Mae Castell Aberlleiniog yn Heneb Gofrestredig cymharol anadnabyddus ger Penmon.
Mae wedi’i leoli yng nghanol coedwig dawel sy’n warchodfa natur, gerllaw glannau culfor hyfryd y Fenai, sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.
Menter Môn, sef Asiantaeth Fenter a Datblygu Gwledig Ynys Môn, yw perchnogion y castell. Mae’n cael ei reoli gan grŵp llywio o gynrychiolwyr lleol.
Mae blaenoriaethau rheoli’r safle yn cynnwys yr hyn sydd o ddiddordeb hanesyddol a diwylliannol, gwarchod natur a mynediad i’r cyhoedd.
Mae amgylchedd naturiol a hanes unigryw Castell Aberlleiniog yn ei wneud yn wahanol i unrhyw heneb gofrestredig arall.
Mae ei stori swynol yn llawn cymeriadau lliwgar, gan gynnwys rhai o dywysogion Cymru, mechdeyrnedd Normanaidd, ysbeilwyr Llychlynnaidd, bradwyr, môr-ladron, cadlywyddion y Rhyfel Cartref, perchnogion stadau cyfoethog a naturiaethwyr Sioraidd. Mae rhywbeth i gipio dychymyg pawb i’w gael yma.
Mae Aberlleiniog wir yn gastell ‘dirgel’, gyda nifer o gyfrinachau eto i’w darganfod!
Mae’r castell yn agored i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim drwy’r flwyddyn.


