
Cylchdaith Caergybi

Disgrifiad o daith gylchol yn Caergybi, ar arfordir gorllewin Ynys Môn.
Pellter: 4.8 cilometr / 2.9 milltir
Anhawster: Hawdd
Mae gan Gaergybi lawer i’w gynnig: o adfeilion Rhufeinig, i gampau peirianyddol oes Fictoria. Mae canol y dref yn llawn caffis, siopau a thafarnau, ond i’r rheiny y mae’n well ganddynt daith gerdded fwy gwledig, mae Parc Gwledig y Morglawdd ychydig bellter o’r Marina, ar hyd y Llwybr Arfordirol.
Cyfarwyddiadau
Gellir cychwyn y daith gylchol hon o gwmpas Caergybi yn unrhyw le.
Y Marina i’r Orsaf Reilffordd
O’r Marina, ewch ar hyd y Promenâd gyda’r môr ar y chwith i chi. Pan gyrhaeddwch yr Amgueddfa Arforol, ewch i fyny’r stepiau a throwch i’r chwith heibio’r maes parcio bach.
Ewch ar hyd y ffordd heibio’r maes chwarae a’r rhandiroedd. Dilynwch y ffordd rownd i’r dde heibio rhes o dai llety.
Cadwch y ffens hir ar y chwith i chi. Gyferbyn â maes parcio, ceir casgliad o weithdai morol mawr, sy’n Adeiladau Rhestredig Gradd II.
Yna, ar y dde i chi, ceir waliau’r Gaer Rufeinig, a stepiau at Eglwys Sant Cybi.
Ar ôl maes parcio arall, dringwch y stepiau metel. Trowch i’r chwith ar ben y stepiau a chroeswch Bont y Porth Celtaidd i’r Orsaf Reilffordd.
Yr Orsaf Reilffordd i Sgwâr y Farchnad
Ewch allan o’r Orsaf Reilffordd a throwch i’r dde tuag at y gylchfan, a chroeswch y fynedfa i’r Porthladd. Trowch i’r chwith ar hyd Ffordd Turkey Shore, heibio tai lliw pastel.
Yn fuan, fe welwch arwydd brown Cofeb Skinner ar y dde i chi. Dringwch y stepiau i ymweld â’r gofeb ac edmygu’r golygfeydd dros y dref a’r harbwr.
Dilynwch eich llwybr yn ôl at yr Orsaf Reilffordd, ond trowch i’r chwith ar ôl i chi groesi’r croesfannau sebra. Cerddwch i fyny at bont y rheilffordd.
Hanner ffordd dros y bont, ar y dde, fe welwch Dwr y Cloc. Ar ôl croesi’r bont, trowch i’r dde i gyfeiriad canol y dref.
Croeswch y ffordd yn y groesfan pelican, ac wrth Gofeb y Rhyfel, trowch i’r chwith, i fyny Stryd y Farchnad. Ewch ymlaen i fyny Stryd y Farchnad.
Ar y dde, byddwch yn pasio rhodfa â theils glas, sef ochr y dref o Bont y Porth Celtaidd.
Sgwâr y Farchnad i’r Marina
Wrth y Groes Garreg (mae’r ddau borth carreg bwaog ar y dde yn arwain at Eglwys Sant Cybi) ewch i’r chwith, ac yna i’r dde, i fynd heibio nifer o siopau, caffis a thafarnau.
Ar y chwith, fe welwch borth haearn, sef y fynedfa i Neuadd y Farchnad. Ewch heibio tafarn y Stanley Arms, a dilynwch y ffordd rownd i’r chwith.
Ewch ymlaen i fyny Stryd Newry, heibio Neuadd y Dref a chapel Bedyddwyr ar y dde.
Dilynwch Stryd Newry heibio’r filas brics coch ar y chwith, ac i lawr yr allt at Ffordd y Traeth.
Trowch i’r chwith ac ewch ar hyd Ffordd y Traeth heibio’r ardd isel yn ôl i’r Marina.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Safleoedd dethol
- O Gofeb Skinner, ceir golygfeydd panoramig dros yr harbwr a’r dref. Mae’n coffáu’r Capten John Skinner a oedd yn byw yng Nghaergybi, er y’i ganwyd yn yr Unol Daleithiau ym 1760.
- Agorwyd y Morglawdd ym 1873, mae’n dal i fod yr hiraf yn y DU, a hwnnw’n 2.75km o hyd. Cyflogwyd 1,300 o ddynion i’w adeiladu. Erbyn hyn, mae’r chwarel lle cloddiwyd y cerrig ar ei gyfer yn barc gwledig.
- Adeiladwyd Pont y Porth Celtaidd mewn arddull pensaernïol tra modern. A hwnnw’n rhychwantu 160m, fe’i hagorwyd yn 2006, ac mae’n cysylltu canol y dref â’r orsaf reilffordd a therminws y fferi.
- Adeiladwyd Neuadd y Farchnad ym 1855 gan y tirfeddiannwr a’r gwleidydd lleol William Owen Stanley. Fe’i defnyddiwyd fel marchnad, llys barn, barics milwrol, llyfrgell, a lleoliad bocsio.
- Yn adfeilion Caer Rufeinig, ceir adeilad atyniadol Eglwys Sant Cybi sy’n dyddio o’r 13eg ganrif. Wedi’i sefydlu yn 540AD gan Sant Cybi, cefnder i Dewi Sant, fe gafodd yr Eglwys ei hanrheithio gan Lychlynwyr yn y 10fed ganrif, a’i difrodi unwaith eto gan fyddinoedd goresgynnol Harri’r IV o Loegr ym 1405. Ceir Eglwys y Bedd yno hefyd, tybir mai hon ydy man gorffwys Serigi, sef gwron a chawr Gwyddelig o’r 6ed ganrif.
- Gyda rhannau ohono o’r golwg bellach, a hwnnw braidd yn druenus yr olwg, cafodd Bwa Siôr IV ar Ynys Halen ei enwi i goffáu ymweliad y Brenin â’r dref ym 1821. Ond fe’i hadeiladwyd ym 1824 i nodweddu pen gogleddol ffordd A5 Thomas Telford, sy’n cysylltu Llundain â Chaergybi.
- Man cymunedol amlbwrpas ydy Canolfan Ucheldre, sef hen adeilad capel lleiandy urdd lleianod Bon Sauveur Caergybi.
- Yn Amgueddfa Arforol Caergybi, ceir nifer aneirif o fodelau, paentiadau, lluniau ac arteffactau sy’n ymwneud â llongau. Dyma hen orsaf y bad achub, sy’n dyddio o 1858, ac mae’n un o’r hynaf yng Nghymru.
- Yr adeilad ger Cofeb y Rhyfel ydy hen dafarn yr Eagle & Child Inn, a godwyd ym 1770. Dyma fan cychwyn teithwyr a oedd yn mynd ar daith 48 awr coetsis y Post Brenhinol i Lundain.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Man cychwyn
Mwynderau
- Caffi.
- Parcio ar gael.
- Siop
- Bwyty
- Lluniaeth
- Toiledau