Cylchdaith Bae Cemaes
Disgrifiad o gylchdaith ger Bae Cemaes, ar arfordir gogleddol Ynys Môn.
Pellter: 8.5 cilometr / 5.2 milltir
Anhawster: Heriol
Er nad ydy’r daith hon yn hir, mae’n un anodd: mae rhai rhannau’n cynnwys dringfeydd serth neu stepiau, ac mae rhannau o’r Llwybr Arfordirol yn greigiog, yn gul ac yn agored. Byddwch yn cychwyn drwy dir fferm bryniog, ac yn dychwelyd ar hyd clogwyni uchel, dramatig ardal fwyaf ogleddol yr ynys.
Cyfarwyddiadau
Cemaes i Gapel ‘1902'
Gadewch y maes parcio mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol ar hyd y lôn, ac ewch ymlaen i gyffordd. Trowch i’r dde am tua 30m, ac yna i’r chwith drwy giât i lwybr.
Ewch ymlaen ar y llwybr hwn ar hyd gwaelod y dyffryn. Cadwch i’r dde wrth y ffens ar hyd gwaelod y llethr.
Chwiliwch am gychod gwenyn ar y chwith wrth i chi fynd at dy Tyddyn Rhydderch.
Ewch drwy giât mochyn, i mewn i ardd breifat, a chroeswch y lawnt. Croeswch y dreif, ac ewch i mewn i gae ar yr ochr arall.
Croeswch y cae, ewch dros bont droed, ac i fyny rywfaint o stepiau carreg, dros y wal i ymuno â’r ffordd.
Trowch i’r dde ar hyd y lôn hon, ac ar ôl 1.5km, ceir llwybr ar y chwith. Anwybyddwch hwn, ond gallwch ei ddefnyddio fel ffordd fer. Noder: (gellir cwtog i’r daith drwy gymryd y llwybr hwn yn syth at y Llwybr Arfordirol. Gallwch hefydd defnyddio’r un llwybr o’r pen arall, i osgoi hanner bryniog olaf y rhan sydd ar y Llwybr Arfordirol).
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd at gapel, dyddiedig 1902, a dreif at fferm Cae Adda.
Capel ‘1902’ i Graig Wen
Yn fuan, fe welwch fwthyn gwyliau a dau adeilad fferm adfeiliedig. Yna, ar dro graddol yn y ffordd, fe ddowch at ddau lwybr sy’n mynd i’r chwith, tua 30m ar wahân. Cymrwch yr un cyntaf drwy giât fferm.
Dilynwch y trac i lawr ymyl y cae. Dilynwch y llwybr rownd ac i lawr at gyffordd â’r Llwybr Arfordirol.
Cadwch i’r chwith, gan basio pennau cyrn simnai’r hen waith brics i lawr ar y traeth ar y dde i chi.
Ewch ymlaen i fyny’r allt ar y Llwybr Arfordirol, lle ceir mast a thriongl mordwyaeth ar y pentir o’r enw Torllwyn ar y dde.
Ewch oddi ar y llwybr am ychydig at y mast os ydych eisiau edmygu’r olygfa. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld Ynys Manaw, sy’n 80km i’r gogledd.
Dilynwch y Llwybr Arfordirol i fyny, gyda’r hen gêr weindio ar y chwith i chi. Ar ben brigiad creigiog Graig Wen, a welir yn uchel ar y chwith, ceir piler triongli a golygfeydd da tua’r de.
Graig Wen i Eglwys Llanbadrig
Noder: ceir sawl rhes o stepiau serth a chul, ynghyd â llwybrau creigiog ar y rhan nesaf o’r Llwybr Arfordirol. Ond, ar ôl Porth Cynfor, ceir dewis i gymryd y llwybr tua’r tir ar y chwith i chi, os ydych yn dymuno osgoi’r rhannau anoddaf, drwy ddychwelyd i’r ffordd, a dychwelyd yn ôl i’r cychwyn.
Ewch ymlaen ar hyd pennau’r clogwyni cyn mynd i lawr ac esgyn yn serth i mewn ac allan o geunant Porth Cynfor, ac i fyny at dwr gwylio ar Bentir Llanlleiana.
Ewch i lawr y stepiau i Borth Llanlleiana lle ceir hen simnai a hen waith porslen adfeiliedig, cyn dringo stepiau serth i fynd ymlaen ar hyd y clogwyni. Yn Eglwys Llanbadrig, ewch o amgylch y fynwent, gan ddilyn y wal i’r ffordd
Eglwys Llanbadrig i Cemaes
Ewch ymlaen i lawr y ffordd cyn troi i’r dde drwy giât mochyn, ac ailymuno â’r Llwybr Arfordirol.
Cerddwch o amgylch y pentir gyda golygfeydd ar draws y bae i Gemaes, a dilynwch y stepiau a’r llwybr i lawr rhwng y gwrychoedd i ddychwelyd yn ôl i’r maes parcio.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a diddordebau
- Mae Cemaes yn borthladd pysgota hyfryd a chanddo hanes cyfoethog. Ceir Canolfan Dreftadaeth i’r rheiny sydd eisiau dysgu rhagor amdano.
- Defnyddiwyd y gêr weindio adfeiliedig i gludo’r cwartsit a gloddiwyd i lawr i’r gwaith brics ar y traeth.
- Mae adfeilion y Twr Gwylio ar Bentir Llanlleiana yn marcio pen mwyaf gogleddol Cymru ac Ynys Môn. Fe’i hadeiladwyd i goffáu achlysur coroni Brenin Edward VII ym 1902.
- Cafodd Eglwys Llanbadrig ei chysegru i Sant Padrig, ar ôl iddo fod mewn llongddrylliad yn Ynys Badrig, ychydig bellter oddi ar yr arfordir, a chysgodi mewn ogof ym Mhorth Padrig. Dyma’r eglwys hynaf sy’n goroesi ym Môn, sy’n dyddio o’r 440AD, ac fe’i hadnewyddwyd yn y 19eg ganrif.
Bywyd Gwyllt
Gellir gweld morloi cyffredin yn torheulo ar y creigiau, ynghyd â llamhidyddion yn y môr. Mae brain coesgoch a hebogiaid tramor yn nythu ar y clogwyni hyn. Ceir adar môr fel gwylanod coesddu, adar drycin y graig a gwylogod hefyd.
Yn y gwanwyn, ceir toreth o flodau gwyllt lliwgar ar ben y clogwyni.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae sawl gwasanaeth bws yn stopio yng Nghemaes, sef Rhifau 31, 60, 61 a 62.
Lluniaeth
Ceir tafarn, caffis, bwytai a siopau yng Nghemaes, ynghyd â chaffi yn y Ganolfan Dreftadaeth.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Caffi.
- Croeso i goetsys.
- Croeso i gŵn.
- Parcio ar gael.
- Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
- Lluniaeth