Cylchdaith Brynrefail
Disgrifiad o daith gylchol ger Brynrefail, ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn.
Traeth Lligwy i Brynrefail
Cymerwch y llwybr arfordirol tua’r gogledd o’r maes parcio.
Ym ‘Mhorth Y Môr’ trowch i’r chwith i fyny cae i ymuno â llwybr, wrth gyrraedd y lôn trowch i’r dde. Mewn tipyn trowch i’r chwith i fyny cae, tua’r dde mae tŷ fferm ac adeiladau, trwy’r bwlch trowch i’r dde yn dilyn ymyl y cae dros yr allt, gan fynd heibio’r pwll ar y top.
Parhewch i gerdded i lawr at dŷ a mynediad i safle carafannau, trowch i’r dde ar y lôn yna i’r dde wrth ymyl y giât mochyn, dilynwch ymyl y safle carafannau a throwch i’r dde dros gamfa wrth adeilad fferm newydd.
Dilynwch y llwybr sy’n gwyro tua’r chwith i lawr yr allt i’r brif ffordd.
Cofeb i’r brodyr Morris yw’r Groes Geltaidd a welwch. Trowch i’r chwith i fyny i Frynrefail.
Brynrefail i Mynydd Bodafon
Trowch i’r dde ym Mrynrefail, rhwng y Siop Grefftau a’r Capel.
Ymhen ychydig trowch i’r dde i mewn i gae bach. Ar ôl camfa garreg, croeswch y caeau a phasiwch drwy giât mochyn, parhewch i fyny’r allt i ymuno â llwybr llydan.
Yn ymyl nant fechan ewch tua’r dde, i fyny’r allt dros nifer o gamfeydd. Ewch ymlaen drwy dir eithinog, dros bont a thrwy gae mawr, gan fynd i gyfeiriad Bodafon.
Byddwch yn dod allan yn ymyl tai yn Nhŷ’n Y Mynydd. Mewn cyffordd yn y llwybrau cymerwch y llwybr gyda marc ffordd syth ymlaen. Ar ôl mynd heibio’r gwaelod ar ochr bellaf ‘Mynydd Bodafon’ mae llwybr â llawer o ddefnydd wedi bod arno yn mynd â chi i’r copa.
Mynydd Bodafon i Pilot Boat Inn
Dychwelwch at y gyffordd yn y llwybrau yn Nhŷ’n Y Mynydd.
Trowch i’r chwith cyn y Bwthyn Gwyn i lawr yr allt. Ewch tua’r dde ar ôl nifer o gaeau, a gyda golygfa wych o Fae Dulas parhewch i lawr yr allt.
Ar ôl darn serth i’r dyffryn byddwch yn mynd heibio adfail ‘Nant Y Sebon’. Ewch tua’r dde a mynd drwy dir corsiog. Yna ewch yn igam ogam i’r chwith, yna i’r dde, i ddilyn nant. Pasiwch dŷ, ewch i lawr llwybr, croeswch gae, i ddod allan ar y brif ffordd.
Croeswch gyda gofal, trowch i’r dde a cherdded i fyny at y Pilot Boat Inn.
Pilot Boat Inn i Traeth Lligwy
Ewch dros y gamfa yn y Pilot Boat Inn ac i fyny’r cae.
Mae ‘Pentre Eirianell’ ar y chwith, ymunwch gyda llwybr, sy’n arwain at gaeau yn pasio pwll ar y dde, dilynwch ymyl y cae, ewch tua’r dde ar ôl ychydig o eithin i ddod allan i lôn.
Trowch i’r chwith i lawr y lôn yna i’r dde ar dro siarp, i lawr llwybr, yn dilyn arwyddbyst i’r llwybr arfordirol. Byddwch yn dod allan yn Nhraeth Yr Ora.
Trowch i’r dde a dilynwch yr arfordir yn ôl i Ligwy.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Cyfeillgar i deuluoedd