
Cylchdaith Llaneilian

Disgrifiad o daith gerdded gylchol ger Llaneilian ar arfordir gogleddol Ynys Môn.
Pellter: 3.4 cilometr / 2.1 milltir
Anhawster: Cymedrol
Clogwyni isel a thir fferm a welir fwyaf ar y daith fer hon yn Llaneilian, sy’n anheddiad gwasgarog heb ganolfan fel y cyfryw. Yn llawn golygfeydd gwych a hanes lleol, mae’n gyfle ardderchog i gael blas ar y gornel hon o’r ynys. Mae’n cynnwys allt heriol, a gall fod yn anodd mynd i lawr mewn mannau.
Cyfarwyddiadau
Y Maes Parcio i Drwyn y Balog (neu Trwyn Eilian)
Trowch i’r dde allan o’r maes parcio a cherddwch i lawr y ffordd i Borth Eilian. Gan aros ar y ffordd, trowch i’r dde, a dilynwch y ffordd i fyny’r llethr, heibio’r fan (ar y dde) y byddwch yn ailymuno â’r llwybr wrth ddychwelyd.
Ar ôl 300m, trowch i’r dde drwy giât mochyn. Os ydych yn dymuno, gallwch barhau ar hyd y ffordd i fynd at Oleudy Trwyn y Balog ac yn ôl.
Trwyn y Balog i’r Hen Orsaf Delegraff
Dilynwch y llwybr ar ochr dde’r cae i’r dwyrain, tua’r arfordir. Gyda’r wal ar y dde, ewch drwy giât mochyn ym mhen pellaf y cae ac i’r dde i lawr i’r môr, a chilfach Porth y Corwgl.
Dilynwch yr arfordir gyda’r môr ar y chwith i chi, ac ewch drwy giât mochyn i mewn i’r cae nesaf. Ewch yn syth ar draws y cae a thrwy giât mochyn arall. Cadwch i’r dde am ychydig i fyny’r bryn at y giât mochyn nesaf.
Dilynwch ymyl y cae hwn ar y dde at giât mochyn fetel yng nghornel y cae ar y dde. Ceir mainc yma i chi gael eich gwynt atoch.
Cadwch i’r chwith ar draws y cae nesaf gan fynd i gyfeiriad croeslinol i fyny’r bryn, heibio’r cyfeirbost at y gamfa yn y gornel ar y chwith. Yna byddwch yn mynd i fyny drwy rywfaint o eithin.
Dilynwch y prif drac a chadwch olwg am y cyfeirbost melyn. Ar ben y trac, trowch i’r dde, a dilynwch y wal (yr hen orsaf delegraff ydy’r tŷ gwyn ar y chwith) a cherddwch rhwng y ddwy ffens a thros gamfa arall.
Cerddwch heibio’r adeilad allan ar y chwith, ac ewch dros y gamfa fetel yn y groesffordd yn y llwybrau i fynd ar y trac.
Os ydych eisiau cyrraedd copa Mynydd Eilian, dilynwch y llwybr yn syth ymlaen yn y groesffordd. Croeswch y trac, trowch i’r dde ar ôl ymuno â lôn, ac yna trowch i’r chwith i fyny at y copa.
Yr Hen Orsaf Delegraff i’r Maes Parcio
Trowch i’r dde i lawr y trac. Yn lle mae’r dreif yn gwyro i’r chwith yn y fynedfa i Refail Hir, ewch i’r dde i lawr llwybr â gwrych ar y naill ochr iddo.
Noder: mae hwn yn serth mewn mannau, ac efallai’n wlyb a mwdlyd.
Yn fuan wedyn ar y chwith, ceir coetir Coed Avens sy’n agored i’r cyhoedd. Ewch ymlaen i lawr y llwybr at drac. Trowch i’r dde i fynd arno, ac yna’n fuan wedyn, trowch i’r chwith dros stepiau cerrig, a thrwy giât i mewn i gae.
Ewch i lawr yr ochr chwith i’r cae, a thros gamfa. Ewch i’r dde, a dilynwch linell y ffens ar y dde at giât mochyn.
Ewch ymlaen ar hyd llinell y ffens at y giât mochyn nesaf yn y gornel ar y dde, ac yna cadwch i’r chwith i lawr at y gamfa garreg wrth y bont.
Ewch dros y gamfa hon i’r ffordd, trowch i’r chwith, a dilynwch y ffordd yn ôl i fyny i’r maes parcio.
Rhagor o wybodaeth am y daith gerdded hon
Hanes a diddordebau
- Cildraeth cysgodol braf â thywod a graean ydy Porth Llaneilian - perffaith ar gyfer hwylio, caiacio a deifio.
- Codwyd y goleudy presennol yn Nhrwyn y Balog ym 1835 yn lle’r twr blaenorol a godwyd ym 1779, a leolir 300m ymhellach i’r de. Cafodd y golau ei drydaneiddio ym 1952, a’i awtomeiddio’n gyfan gwbl ym 1989.
- Tyllau Duon ydy safle hen chwarel lechi. Gellir gweld wynebau’r gwaith llechi, trac mynediad a rhes o risiau.
- Llecyn cymharol newydd o goetir ydy Coed Avens, sydd wedi’i blannu ag amrywiaeth o goed brodorol sy’n darparu cynefin amrywiol.
- Yr hen orsaf delegraff ydy’r man uchaf ar y daith hon. Wedi’i hadeiladu ym 1841, roedd yn un o 12 gorsaf o’r fath ar arfordir Gogledd Cymru.
- Mynydd Eilian, i’r de-orllewin, ydy’r copa uchaf ond un ym Môn, a hwnnw’n 177m. Mae Mynydd Bodafon yn 1m yn uwch. Mynydd Tŵr – a leolir ar Ynys Gybi – ydy’r pwynt uchaf yn y sir, a hwnnw’n 220m.
Bywyd Gwyllt
Mae morloi llwyd yn olygfa gyffredin yn y bae, tra gellir gweld dolffiniaid neu lamhidyddion allan yn y môr oddi ar y pentir.
Mae’r clogwyni isel a’r pentiroedd yn lleoedd da i weld brain coesgoch a chigfrain, a gellir gweld piod môr ac adar hirgoes eraill ar hyd y draethlin.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae bws rhif 31 o Amlwch i Rosgoch yn stopio wrth ymyl Eglwys Sant Eilian, sy’n bellter byr at fan cychwyn y daith.
Lluniaeth
Nid oes unrhyw siopau, caffis neu dafarnau. Mae’r cyfleusterau agosaf yn Amlwch, 4km i ffwrdd.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Dechrau'r daith gerdded
Mwynderau
- Parcio ar gael.