Y Gerddi Cudd a'r Ystafell De draddodiadol ar agor i'r cyhoedd rhwng mis Chwefror a mis Hydref. Diwrnodau ac amseroedd yn amrywio trwy'r tymor; am fwy o wybodaeth ewch i www.plascadnantgardens.co.uk, ffoniwch 01248 717174 neu e-bostiwch garden@plascadnantgardens.co.uk
Awydd trefnu ymweliad preifat ar gyfer eich grŵp neu glwb? Rydym yn cynnig nifer o becynnau ar gyfer ymweliadau preifat . Rhaid archebu ymweliad grŵp o flaen llaw.
Yn 1996, prynwyd Plas Cadnant a’r ystâd 200 erw gan y perchennog presennol a dechreuodd adfer yr ardd hanesyddol a’r tir. Ers hynny mae rhannau mawr o’r gerddi wedi eu gweddnewid ac wedi eu hadfer i’w hen ogoniant.
Roedd cyn berchnogion Plas Cadnant yn perthyn i’r teulu Tremayne o Heligan House, sydd bellach yn enwog am ei Erddi Coll.
Mae gardd newydd yn cael ei chreu ar safle hanesyddol, ac yn datblygu’n baradwys i blanwyr. Caiff ei hystyried ymysg ugain gardd fwyaf apelgar Cymru, ac mae wedi ei chynnwys mewn llyfr newydd 'Discovering Welsh Gardens'. Mae’r gwaith datblygu’n parhau...
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddfa’r Ardd ar 01248 717174 neu e-bostiwch info@plascadnantgardens.co.uk