Mae sefyll yma, yn yr hyn sydd ar ôl, yn golygu sefyll lle y safodd Llywelyn Fawr unwaith, lle (efallai) y bu'n ymgynnull milwyr, yn casglu trethi, yn ateb dadleuon, yn cynnal ffeiriau, yn dawnsio gyda'i wraig neu yn creu cynllun i goncro Ceredigion neu ymosod ar Yr Amwythig.
Roedd Llywelyn yn llywodraethu dros y rhan fwyaf o Gymru am 40 mlynedd - ond 40 mlynedd yn unig wedi ei farwolaeth, roedd y cyfan ar ben. Dan y goron Normanaidd/Saesnig, mathrwyd Teyrnas rymus Gwynedd, a oedd wedi parau am 800 mlynedd. A throi cefn ar ei hadeiladau llys.
Roedd y goncwest a'r blynyddoedd wedyn o ddarostwng mor gyflawn, nes i safleoedd y llysoedd (a chof lleol o'u hunion leoliad) gael eu colli i hanes.