
Pili Palas

Mae diwrnod allan ym Mhili Palas yn brofiad hudolus ar gyfer yr holl deulu – dim ots beth yw'r tywydd!
Dewch i mewn i’r amgylchedd trofannol sy’n llawn o blanhigion lliwgar a rhaeadrau dwr hefo pili palas byw yn hedfan o’ch cwmpas ym mhobman.
Felly dewch i mewn i'r awyrgylch trofannol – i ganol y planhigion lliwgar a'r rhaeadrau ble mae'r gloynnod byw annhygoel yn hedfan o'ch amgylch. Dyma fud hudolus Pili Palas.
Ond mae llawer, lawer mwy i'w weld. Cewch gyfarfod Charlie, Elvis, Jake a llu o adar cyfeillgar eraill yn y ty adar. Mae gennym ddigonedd o nadroedd a madfallod o bob math – a mi fyddwch yn siwr o gael cyfle i'w cyfarfod yn ein sesiynau cyffwrdd poblogaidd.
Ar ol i chi weld yr anifeiliaid, a chrwydro ar hyd ein llwybr natur, mae digonedd o gyfleodd i'r plant chwarae.
Mae digonedd o ddewis o bethau i'w prynu yn ein siop a mae'r caffi yn gweini bwyd cartref blasus.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Parcio am ddim
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
Pili Palas, Ffordd Penmynydd Porthaethwy LL59 5RP
Ymweld a'r wefanhttps://www.pilipalas.co.uk/
Mwynderau
- Caffi.
- Taliadau cerdyn.
- Croeso i goetsys.
- Hygyrch i'r anabl.
- Toiled anabl.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Parcio ar gael.
- Lluniaeth
- Siop
- Toiledau