
Tŷ a gardd Plas Newydd

Wedi’i gosod ar lannau’r Fenai yng nghanol golygfeydd godidog o brydferth mae’r plasty a’r ardd yn werth eu gweld ar Ynys Môn
Wedi ei leoli ar lan Afon Menai yng nghanol golygfeydd syfrdanol o hardd, y tŷ cain ei hailgynllunio gan James Wyatt yn yr 18fed ganrif. Mae'r tŷ yn enwog am ei gysylltiad â Rex Whistler ac ceir un o'i ddarluniau mwyaf yn rhan o'r arddangosfa. Ceir hefyd amgueddfa filwrol yn cynnwys creiriau Ardalydd Cyntaf Môn, a orchmynnodd yr marchoglu ym Mrwydr Waterloo.
Mae gardd Plas Newydd yn rhyfeddod i'w weld ym mhob tymor. Yn y gwanwyn gallwch grwydro trwy harddwch 5 erw yr Ardd Rhododendron wedi dilyn llwybr coediog hyd glannau'r Fenai. Yn yr haf, mae'r ardd deras yn fôr o liw. Daw'r hydref a'i sbloets o liwiau a môr o blanhigion tri lliw ar ddeg.
Mae ymwelwyr yn mwynhau:
- gerddi helaeth
- llwybrau trwy'r coed ac ar lan y môr
- parc antur a thy yn y coed
- ystafell de drwyddedig
- siop anrhegion
- teithiau tywys drwy drefnu ymlaen llaw digwyddiadau
Am ragor o wybodaeth gweler safle we Plas Newydd
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad
Plas Newydd Llanfair Pwllgwyngyll LL61 6DQ
Ymweld a'r wefanhttps://www.nationaltrust.org.uk/plas-newydd
Mwynderau
- Caffi.
- Taliadau cerdyn.
- Croeso i goetsys.
- Hygyrch i'r anabl.
- Toiled anabl.
- Cyfeillgar i deuluoedd
- Croeso i grwpiau
- Parcio ar gael.
- Lluniaeth
- Siop
- Toiledau