Rydym yn y lle delfrydol i gynnig y teithiau cwch mwyaf gwyrdd a hardd, gyda llu o fywyd gwyllt i'w fwynhau. Mae ethos ein cwmni'n ymwneud â phrofi natur a bywyd gwyllt yn ei gynefin naturiol, a sicrhau eich bod yn mwynhau gweld y bywyd gwyllt heb amharu arno. Nôd Seacoast Safaris yw cynnig teithiau cwch cynaliadwy, gwyrdd a moesegol. Mae elw'r cwmni'n cael ei fuddsoddi mewn pethau fel cyfrannu at niwtraleiddio carbon, ynni a thanwyddau adnewyddadwy, cynhyrchion cynaliadwy sydd wedi'u hailgylchu a sicrhau swyddi lleol. Rydym hefyd yn buddsoddi'r elw yn ein cymuned, yn rhoi miloedd i elusennau lleol bob blwyddyn.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o deithiau. Ein taith fwyaf poblogaidd yw ein mordaith, 'Puffin Island cruise', sy'n eich tywys at Ynys Seiriol ar ein cwch sy'n dal 54 o deithwyr. Rydym hefyd yn cynnig ein mordaith enwog, 'Best of Puffin Island & the Menai Strait', sy'n eich tywys i Ynys Seiriol cyn mynd ymlaen i'r cyfeiriad arall i lawr y Fenai, o dan y ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr! Chi piau'r dewis!

