
Llanbadrig i Llanlleiana

Yn amgylchynu pendraw gogleddol Ynys Môn (a Chymru) gall yr arfordir rhwng Llanbadrig a Llanlleiana fod yn llwybr caled i’w gerdded.
Fodd bynnag mae’r bryniau tonnog ble mae’r gwynt yn chwyrlio drostynt yn sicrhau fod brig pob bryn yn datgelu rhywbeth newydd. Wrth gerdded o’r Eglwys yn Nhŷ’n Llan tuag at Borth Llanlleiana, mae’r clogwyni serth islaw yn adleisio galwadau’r cigfrain, ac yn aml gellir gweld y frân goesgoch, acrobat teulu’r brain yma. Daliwch ymlaen hyd at Dŵr y Jiwbilî, hen dŷ haf sy’n anghyfannedd yn edrych dros Borth Llanlleiana ac ar ddiwrnod braf cewch eich gwobrwyo â golygfeydd o arfordir gogledd Môn yn ei gyfanrwydd. O’r fan hon mae’n hawdd gwerthfawrogi pam fod yr ardal hon yn un o safleoedd enwocaf Gogledd Cymru am ei daeareg, ble mae ystod ffurfiannau eithafol o wahanol greigiau yn rhoi cliwiau sut y ffurfiwyd y tirwedd filiynau o flynyddoedd yn ôl.
Mynediad
Mae ffioedd mynediad yn berthnasol
Parcio
Gall taliadau parcio fod yn berthnasol
Cyfeiriad
Llanbadrig
Mwynderau
- Parcio ar gael.
- Cyfeillgar i deuluoedd