Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Pont Menai gyda'r nos gyda'r pileri wedi'u goleuo'n felyn disglair

Treftadaeth Menai - Arddangosfa Pontydd Menai

Pont Menai gyda'r nos gyda'r pileri wedi'u goleuo'n felyn disglair

Mae’r amgueddfa gymunedol hon yn adrodd hanes croesi’r Fenai ac yn dathlu’r ddwy bont fyd enwog a’r peirianwyr a’u hadeiladodd.

Gallwch weld arteffactau o’r pontydd gwreiddiol, gwylio ffilm ar hanes eu hadeiladu, rhoi cynnig ar adeiladu pont neu roi prawf at eich gwybodaeth drwy gymryd rhan mewn cwis, ymestyn eich ymweliad gyda thaith gerdded dros y Bont Grog ac oddi tani neu chwilio am y llewod ar Bont Britannia a dysgu pam mae’r Fenai mor bwysig i fywyd gwyllt.

Ar agor bob dydd Mercher a dydd Iau, Ebrill-Hydref rhwng 10am – 5pm
Y tu allan i oriau agor arferol, rydym yn hapus i groesawu grwpiau o 10 neu fwy; cysylltwch gyda’r swyddfa os gwelwch yn dda i drafod eich ymweliad.

Am ychwaneg o wybodaeth, ewch i’n gwefan.

Rhanbarth

Mynediad

Mae ffioedd mynediad yn berthnasol

Parcio

Gall taliadau parcio fod yn berthnasol

Manylion Cyswllt


Cyfeiriad

Canolfan Thomas Telford Mona Road Porthaethwy LL59 5EA

Ymweld a'r wefan

https://menaibridges.co.uk

Mwynderau

  • Cyfeillgar i deuluoedd
  • Trafnidiaeth cyhoeddus gerllaw
  • Toiledau

gerllaw...