Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Ynys Llanddwyn i'w gweld o'r awyr gyda cherddwr unigol ar y traeth

Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Sir Ynys Môn: croesomon.co.uk

Mae gwefan Cyngor Sir Ynys Môn yn defnyddio cod HTML a steiliau CSS dilys. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod y safle mor hygyrch â phosib i bawb a’i bod yn cydymffurfio â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) a Menter Hygyrchedd y We (WAI) y W3C. Mae’r safle’n defnyddio dyluniad ymatebol, sy’n newid cynllun tudalennau gwe fel eu bod yn gweithio’n dda ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau symudol.

Defnyddio'r wefan hon

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn. Rydym am i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu gwneud y pethau canlynol:

  • newid lliw, lefelau cyferbynnedd a ffont
  • chwyddo’r cynnwys 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiwn fwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr bod testun y safle mor syml â phosib fel ei fod yn ddalladwy.

Pa mor hygyrch ydi’r wefan

Rydym yn ymwybodol nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch eto:

  • Nid yw rhai dogfennau PDF, Word ac Excel yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
  • Efallai y byddwn yn cyhoeddi dogfennau sydd yn addas i’w hargraffu, nad ydynt yn hygyrch, os ydi’r wybodaeth eisoes ar gael mewn fformat hygyrch ar yr un dudalen. Bwydlenni cinio ysgol, er enghraifft, fel y gall ysgolion argraffu’r atodiadau os ydynt yn dymuno.

Beth i'w wneud os na allwch ddefnyddio rhannau o'r wefan hon

Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd-ei-darllen, recordiad sain neu braille, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn digidol@ynysmon.llyw.cymru.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Digidol digidol@ynysmon.llyw.cymru.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Gydraddoldeb a Chymorth (GCGCh).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan hon

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai dogfennau PDF a Word nad ydynt yn bodloni’r safonau hygyrchedd – er enghraifft, mae’n bosib nad ydi pob dogfen wedi’i marcio fel ei bod yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.

Efallai y byddwn yn cyhoeddi dogfennau at ddiben argraffu, nad ydynt yn hygyrch, os ydi’r wybodaeth eisoes ar gael mewn fformat hygyrch ar yr un dudalen. Bwydlenni cinio ysgol, er enghraifft, fel y gall ysgolion argraffu’r atodiadau os ydynt yn dymuno.

Ein nod yw cael cyn lleied o ddogfennau PDF â phosib ar ein gwefan trwy weld os oes modd i’r cynnwys gael ei ychwanegu fel tudalen we neu ddogfen HTML.

Sut rydym wedi profi'r wefan hon

Mae profion awtomatig wedi cael eu cynnal yn wythnosol ynghyd ag archwiliad cydymffurfiaeth gan arbenigwyr.

Rydym yn profi’r prif blatfform y wefan, sydd ar gael yn https://www.croesomon.co.uk.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwneud y wefan yn fwy hygyrch.

  • Ein nod yw cael cyn lleied o ddogfennau PDF â phosib ar ein gwefan trwy weld os oes modd i’r cynnwys gael ei ychwanegu fel tudalen we neu ddogfen HTML.
  • Byddwn yn dal i gynnal profion hygyrchedd wythnosol gan ddefnyddio partneriaid trydydd parti (Site Improve) a bydd ein Tîm Gwasanaethau Digidol hefyd yn cynnal profion.
  • Byddwn yn archwilio siwrneiau defnyddwyr yn rheolaidd i weld a ydynt yn hygyrch.
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu ymwybyddiaeth o fewn y cyngor ynglŷn â hygyrchedd i wneud yn siŵr bod cynnwys yn hygyrch cyn iddo gael ei gyhoeddi ar y wefan.
  • Byddwn yn parhau i weithio â chyflenwyr trydydd parti i wneud yn siŵr bod eu meddalwedd yn hygyrch.

Os dewch o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Digidol digidol@ynysmon.llyw.cymru.

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Ionawr 2024.

Cyngor ynglŷn â hygyrchedd

Porwyr gwe

Er mwyn gwneud yn siŵr bod eich dyfais yn gydnaws ac er mwyn i chi allu pori’r we yn ddiogel rydym yn argymell eich bod chi’n diweddaru system weithredu a phorwr gwe eich dyfais. Gallwch weld pa mor ddiweddar ydi’ch porwr drwy fynd i’r wefan yma <https://www.whatismybrowser.com/> neu wefannau tebyg

Cymraeg clir a Saesneg clir

Rydym yn ceisio ysgrifennu Cymraeg a Saesneg clir a heb jargon lle bo modd. Os nad ydych yn deall rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Newid gosodiadau eich porwr gwe

Gallwch hefyd newid gosodiadau eich porwr gwe neu’ch dyfais er mwyn cael gwell profiad o’r wefan yn unol â’ch anghenion a’ch dewisiadau. Mae help ar gael ar-lein yn AbilityNet, lle gallwch ddod o hyd i gyngor ar sut i wneud y pethau canlynol:

Eich dyfais

Mae AbilityNet hefyd yn darparu cyngor ar sut y gallwch wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Cynnwys wedi’i fewnblannu

Mae ein gwefan yn defnyddio cynnwys wedi’i fewnblannu o wefannau eraill. Fe all hyn amharu ar hygyrchedd os ydych chi’n ceisio cael mynediad at gynnwys gan ddefnyddio bysellfwrdd neu dechnoleg darllen sgrin. Os dewch o hyd i broblem, cysylltwch â ni fel y gallwn ni eich helpu a cheisio datrys y broblem lle bo modd.

Efallai y byddwn ni’n defnyddio gwefannau fel YouTube i ddangos cynnwys fideo. Mae rhai o’r systemau yr ydym ni’n eu defnyddio yn cael eu darparu gan gwmnïau trydydd parti, er enghraifft cymryd taliadau, mapio, ymgeisio am swydd neu chwilio am gais cynllunio (i enwi dim ond ychydig). Er ein bod ni’n pwysleisio pwysigrwydd hygyrchedd a defnyddioldeb, rydym yn aml iawn yn dibynnu ar y darparwyr hyn i ddiweddaru eu meddalwedd. Yn yr un modd, nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau allanol y mae modd cysylltu â hwy drwy ddolenni ar ein gwefan.

Argraffu tudalennau

Os oes yn well gennych chi argraffu cynnwys yn hytrach na’i ddarllen ar sgrin, gallwch argraffu tudalennau heb ddefnyddio’r fwydlen. Mae modd argraffu pob tudalen ar y wefan hon.

Cysylltu

Os hoffech gynnig adborth ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon, neu roi gwybod am unrhyw broblemau, gallwch gysylltwch â ni.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb

Mae dolenni sain ar gael yn ein swyddfeydd, neu gallwch gysylltu â ni ymlaen llaw er mwyn i ni allu trefnu cyfieithydd BSL (Iaith Arwyddion Prydain) ar eich cyfer.