Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Toriad gwynt ac ymbarél ar draeth gwag

Polisi Preifatrwydd

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae gennych hawl i wybod am y ffordd rydym yn defnyddio gwybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Darllenwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda gan ei bod yn cyfeirio at hawliau ychwanegol y dylech wybod amdanynt.

Cyngor Sir Ynys Môn yw’r rheolydd data ar gyfer eich gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn diogelu eich gwybodaeth ac yn penderfynu sut y caiff ei defnyddio. Y term cyfreithiol am ddefnyddio gwybodaeth yw prosesu. Hefyd, y term cyfreithiol am wybodaeth amdanoch chi yw data personol.

Bydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i hybu mwynhad amgylchedd naturiol yr ynys; datblygu cynnig twristiaeth Ynys Môn a rheoli asedau arfordirol y Cyngor Sir yn effeithiol, dyma’r diben a fwriedir o brosesu. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf.

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio. Mae proffilio yn golygu unrhyw fath o brosesu awtomataidd ar eich data personol er mwyn gwerthuso neu ddadansoddi neu ragfynegi pethau amdanoch chi. Gallai hyn gynnwys eich sefyllfa economaidd, iechyd, tueddiadau personol, diddordebau neu ymddygiad.

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.

Mae’r Cyngor yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd neu hawl gyfreithiol i wneud hynny; neu i berfformio tasg sydd er budd cyhoeddus; neu am eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Y term cyfreithiol am hyn yw y sail gyfreithiol o brosesu.

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am fod ganddo ddyletswydd neu hawl gyfreithiol dan Côd diogelwch Porth Morol 2016; Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009; Deddf ystâd y Goron 1961; Deddf Dŵr 1973; Deddf Llywodraeth Leol 1972; Deddf dosbarth trefol Porthaethwy 1902; Deddf Harbyrau 1964; Deddf cymalau harbyrau, dociau a Piers 1847.

A / neu

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am ei fod yn ymgymryd â thasg sydd er budd cyhoeddus.

A / neu

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am ei fod yn ofyniad mewn contract. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth ofynnol, bydd y gwasanaethau y gofynnir i chi eu derbyn yn dod i ben / ddim yn cael eu darparu.

A / neu

Yn yr achos hwn, mae’r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am eich bod wedi rhoi eich caniatâd llwyr i’r prosesu. Nodwch os gwelwch yn dda, gan eich bod wedi cytuno i’r prosesu, mae gennych hawliau ychwanegol, sy’n cael eu hegluro isod.

Bydd y Cyngor yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff cyhoeddus a fydd yn cynnwys rhywfaint o ddata personol. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y Cyngor yn casglu ac yn rhannu data gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru (AGW) mewn perthynas â’i waith a’i astudiaethau archwilio. Bydd data’n cael ei rannu hefyd yn unol â’r ddyletswydd a nodir yn Adran 33 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae'n bosibl y bydd y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei rhannu â'r sefydliad(au) canlynol pan fo hynny'n briodol ac yn angenrheidiol i wneud hynny: Llywodraeth Cymru; Croeso Cymru; Asiantaeth y gwylwyr y Glannau; Cyfoeth Naturiol Cymru; Gwasanaethau eraill Cyngor Sir Ynys Môn; ac awdurdodau lleol eraill.

Nid yw'r rhestr uchod yn hollgynhwysol. Dim ond at y diben y'i bwriedir y caiff eich gwybodaeth ei rhannu.

Bydd yr wybodaeth a gyflenwir gennych yn cael ei chadw cyhyd ag y bo'n ofynnol neu'n angenrheidiol yn unol â'n hamserlen cadw, a chaiff ei dinistrio'n ddiogel. Nodir y cyfnodau cadw yn rhestr y Cyngor o gyfnodau cadw, a elwir yn amserlen dargadw. Os hoffech weld copi o'n hamserlen cadw, cysylltwch â'r swyddog diogelu data ar DPO@anglesey.gov.wales.

Mae gennych chi hawliau cyfreithiol, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth ydynt.

Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad fod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei defnyddio. Bydd y Cyngor yn darparu cadarnhad os gofynnwch amdano.

Mae gennych yr hawl i gael copi o’ch data personol. Darperir copïau o’ch data personol i chi o fewn y cyfnod statudol o un mis (neu, os yw darparu eich data personol yn fater cymhleth, fe wneir hyn cyn gynted ag sy’n rhesymol o fewn 3 mis). Darperir eich data personol yn rhad ac am ddim i chi, fodd bynnag, os tybir fod eich cais yn amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol, codir ffi rhesymol arnoch. Cewch ofyn i gael eich data personol trwy gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor.

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro gwybodaeth amdanoch chi. Gelwir hyn yr hawl am gywiriad. Mae gennych yr hawl i ofyn am i’ch data personol gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn. Fe wneir hyn o fewn 1 mis, neu os yw eich cais yn fwy cymhleth, o fewn 3 mis.

Yr hawl i gael dileu data personol. Mae gennych yr hawl i ofyn am i ddata personol gael ei ddileu mewn amgylchiadau penodol:

  • Pan nad yw’r data personol bellach yn angenrheidiol mewn perthynas â’r diben o’i gasglu/prosesu yn wreiddiol;
  • Os ydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl;
  • Pan ydych yn gwrthwynebu’r prosesu gan y Cyngor ac nad oes unrhyw fudd cyfreithlon sy’n drech na hynny o barhau â’r prosesu;
  • Os cafodd y data personol ei brosesu’n anghyfreithlon;
  • Pan fo rhaid dileu’r data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu
  • Pan fo’r data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â chynnig gwasanaethau cymdeithas wybodaeth i blant, er enghraifft “app” a ddatblygir yn benodol i blant.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu. Pan honnir fod data yn anghywir neu bod yr hawl i ddileu wedi cael ei weithredu, gallwch ofyn i’r Cyngor gyfyngu prosesu hyd nes bod gwiriadau dilysu wedi cael eu cwblhau.

Yr hawl i symud data. O dan amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i gael gafael ar eich data personol a’i ailddefnyddio ar draws amgylchiadau gwahanol. Dylech gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor os ydych yn teimlo bod hyn yn berthnasol i chi.

Yr hawl i wrthwynebu. Yn ogystal â’r hawl i wrthwynebu bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at farchnata uniongyrchol, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu sy’n seiliedig ar berfformio tasg er budd cyhoeddus/defnyddio awdurdod swyddogol (yn cynnwys proffilio), a phrosesu at ddibenion ymchwil gwyddonol/hanesyddol ac ystadegau.

Yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Mae hyn yn golygu, os yw eich Cyngor yn defnyddio eich caniatâd i brosesu eich data personol, gallwch ei dynnu’n ôl. Nid yw hyn yn newid cyfreithlondeb y prosesu sy’n digwydd cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl.

Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd. Mae gennych yr hawl i beidio bod yn destun penderfyniadau sy’n seiliedig yn llwyr ar brosesu awtomataidd, yn cynnwys proffilio, sy’n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol arnoch chi neu’n effeithio arnoch mewn modd sylweddol.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n Swyddog Diogelu Data drwy e-bost, post neu ffôn os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi preifatrwydd hwn neu’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi. Gellir cysylltu gyda Swyddog Diogelu Data (SDD) y Cyngor drwy e-bost: DPO@anglesey.gov.wales neu SDD@ynysmon.llyw.cymru. Rydym yn gobeithio y gall ein SDD ateb unrhyw ymholiad neu ddatrys unrhyw bryder a fydd gennych am y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol hefyd yn rhoi i chi’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwyliol yn y man yr ydych yn gweithio, yn byw fel arfer neu ble y digwyddodd unrhyw achos o dorri’r cyfreithiau diogelu data. Yr awdurdod goruchwyliol yn y DU yw’r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu https://ico.org.uk/concerns

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF

E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Rhif Ffôn: 0303 123 1113