Sgip i'r prif gynnwys

Croeso i Ynys Môn

Meerkat yn Pili Palas

I Deuluoedd: Gwledd o atyniadau i'r teulu

Diwrnod llawn dop, gyda phopeth o forfeirch i ferlod. Dewiswch o’r holl opsiynau gwych isod – dydych chi ddim eisiau gwneud gormod.

Meerkat yn Pili Palas
Cychwyn o
Porthaethwy
Gorffen yn
Niwbwrch
Pellter
Tua 12 milltir

Mae Pili Palas, Porthaethwy, yn Arch Noa o weithgarwch anifeilaidd. Cadwch olwg am wyfynod Atlas (allwch chi ddim eu methu nhw â’u hadenydd 12 modfedd/30cm) yn gwibio ymysg y trigolion lliwgar eraill yn y Tŷ Pili-Pala trofannol. Mae macawiaid, cocatŵod a pharotiaid llwyd Affrica ymysg ein cyfeillion pluog yn y Tŷ Adar. Yng Ngwlad y Madfall a Thwnnel y Swricatiaid fe welwch... wel, mae’n eithaf amlwg on’d ydy?

Mae’r sgorpion, y miltroed enfawr a phryfed brigyn enfawr yn rhai o’r infertebratau o bedwar ban byd yn y Tŷ Pryfed, a’r tarantwla enfawr (sy’n bwyta adar) a pheithon Byrma yw sêr – ai dyna’r gair cywir? – y Guddfan Drofannol a’r Tŷ Nadroedd. Am rywbeth mwy cyfeillgar, ewch i’r Gornel Anwes, y Buarth a’r Sgubor. Ac mae digon o lefydd chwarae yn yr awyr agored.

 

Dilynwch yr A4080 i Frynsiencyn, a throwch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd i Sŵ Môr Môn. Fel Pili Palas, mae’n atyniad teuluol gwych, boed law neu hindda. Er, mae hi’n ddigon gwlyb yma... Dŵr yw enaid yr atyniad clodwiw hwn, sy’n mynd ag ymwelwyr o bob oedran ar antur o dan y don i ddysgu mwy am y creaduriaid sy’n byw yn y moroedd o gwmpas arfordir gwledydd Prydain.

Byddwch yn dod wyneb yn wyneb â’r morfarch, octopws, cimychiaid a llond lle o fywyd gwyllt y dŵr, sydd i gyd yn byw mewn amgylcheddau sy’n efelychu toriad y tonnau, llongddrylliad a choedwig wymon. Mae’n brofiad addysgiadol ac adloniannol sydd â diben difrifol: mae’r sw’n chwarae rôl gadwraeth bwysig, gyda rhaglen fridio morfeirch a deorfa gimychiaid.

Mae’r sŵ, ar lannau Afon Menai, drws nesaf bron i Fferm Foel. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’i gymydog, mae Fferm Foel yn brofiad o fywyd ar dir sych, ar fferm weithiol go iawn.

Mae digon i’ch cadw’n brysur, gan gynnwys llwybrau drwy’r fferm, teithiau tractor a threlar a chyfle i gwrdd â’r trigolion a bwydo’r anifeiliaid. Mae pwll tywod enfawr a chlustog neidio anferthol hefyd yn boblogaidd iawn gyda’r plant.

Mae popeth yn fach yn Anglesey Model Village ar y ffordd i Niwbwrch (dim ond ychydig filltiroedd o Fferm Foel ar y B4419/A4080). Mae’r microcosm hwn o’r ynys yn fersiwn Lilipwtaidd o lawer o dirnodau Ynys Môn, o Gastell Biwmares i’r orsaf reilffordd yn Llanfairpwll, gyda’r arwydd enwog hwnnw i’w weld yn llawn. Mae yna ardd ac ardal chwarae awyr agored hefyd, gyda drysfa.

Cadwch olwg am ddigwyddiadau arbennig sy’n cael eu cynnal yn Anglesey Model Village ac mewn atyniadau ledled yr ynys, o ail-greadau canoloesol i brosiectau cadwraeth, o ffeiriau i wyliau.