
Cymunedau a diwylliant: Treftadaeth wledig a diwydiannol
Mae ‘na ymdeimlad cryf o gymuned yn Ynys Môn, ac mae’r daith hon yn dyst i hynny. Mae’n dechrau gyda hanesion am forio a physgota ac yn dod i ben yng ngwaith copr mwya’r byd un tro.

Dechreuwch ym mhentref mwyaf gogleddol Cymru, gan alw yng Nghanolfan Dreftadaeth Cemaes. Mae’n edrych ar hanes Bae Cemaes a Phlwyf Llanbadrig drwy bedair thema: Treftadaeth Forwrol, Treftadaeth Ddiwydiannol, Portreadau o Gemaes a Myfyrdodau Cemaes.
Fe welwch sut mae’r môr wedi siapio’r gymuned hon, a oedd unwaith yn bentref pysgota penwaig ac yn borthladd prysur yn y 19eg ganrif. Er ei lleoliad gwledig anghysbell, roedd Cemaes yn fwrlwm o ddiwydiant, gyda melin wlân a gwaith brics.
Mae Portreadau o Gemaes yn datgelu rhai ffeithiau rhyfeddol, fel cysylltiad y pentref ag arloeswr awyrennau a thrychineb y Titanic ym 1912, tra bod y Myfyrdodau’n canolbwyntio ar y ffordd y mae’r ardal wedi ysbrydoli artistiaid.
Mae’r amgueddfa’n enghraifft hyfryd o’r ffordd y mae cymuned leol yn dod ynghyd i greu budd parhaus. Mae’n cael ei rhedeg gan grŵp o wirfoddolwyr dyfal ac mae’n berchen i grŵp menter gymdeithasol o’r enw Cwmni Cemaes Cyf, a ffurfiwyd ym 1996 i gefnogi prosiectau cymunedol a gwarchod a hyrwyddo treftadaeth gyfoethog yr ardal.
O Gemaes, dilynwch yr is-ffordd i’r de-ddwyrain drwy Lanfechell i Rhos-goch, sy’n gartref i Oriel Rhosgoch, oriel stiwdio deuluol. Mae’n brolio doniau Paul a Caz Westlake a’u merch Bonnie Brace, gan arddangos amrywiaeth eang o gelf ac arddulliau gan gynnwys tecstilau, printiau leino, paentiadau a ffotograffiaeth (mae croeso i ymwelwyr drefnu apwyntiad – neu ffonio neu e-bostio cyn galw).
O’r fan hon, dilynwch yr is-ffordd i’r gogledd-orllewin i Amlwch am ginio.

Heddiw, mae’n anodd credu yr arferai porthladd cul Amlwch allforio symiau enfawr o gopr o Fynydd Parys gerllaw, gwaith copr mwya’r byd ers talwm.
Cofiwch alw yn y Gwyldy hefyd. Yn lloches i beilotiaid a oedd yn aros i dywys llongau i mewn ac allan o’r porthladd prysur yn wreiddiol, mae nawr yn ganolfan ymwelwyr ar gyfer geoparc Ynys Môn.
Arweiniodd natur unigryw’r ynys a’i daeareg drawiadol – yr arfordirol yn ogystal â’r hyn sydd wedi’i ddatgelu drwy gloddio ym Mynydd Parys – at greu GeoMôn, Geoparc Byd-eang UNESCO. Dysgwch fwy yn y Gwyldy, lle gwelwch arddangosfeydd o’r holl brif fathau o greigiau yn Ynys Môn, yn ogystal ag arddangosfa ar newid yn yr hinsawdd.
Mae’r amser wedi dod i brofi’r peth go iawn. Dilynwch y B5111 tua’r de am ychydig filltiroedd i faes parcio Mynydd Parys a mwynhewch Geodaith 2 filltir/3.2km drwy’r dirwedd ddiffaith anhygoel hon. Cerddwch drwy loerlun rhyfedd o goch, oren, pinc, brown, porffor, du, gwyrdd, melyn a llwyd a grëwyd gan 1,500 o weithwyr yn y 18fed a’r 19eg ganrif, gyda dim mwy na chaib, rhaw a phowdwr gwn.