Dechreuwch yn Amgueddfa Arforol Caergybi, sy’n edrych dros Draeth Newry. Er bod yr amgueddfa’n canolbwyntio’n bennaf ar hanes morol Môn, mae yna un arddangosfa sydd ychydig yn wahanol – ffosil o asgwrn gên a dant mamoth (Myfanwy yw enw’r creadur).
Yn perthyn i’r creaduriaid eliffantaidd enfawr a fu’n crwydro’r ddaear dros 30,000 o flynyddoedd yn ôl, fe’i darganfuwyd gan weithwyr yn Harbwr Caergybi ym 1864. Ar ôl treulio rhywfaint o amser yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, mae’r trysor cyn-hanesyddol hwn bellach wedi ymgartrefu’n barhaol yn y man lle cafodd ei ddarganfod.
Ewch allan o Gaergybi tua’r gorllewin ar yr is-ffordd i Ynys Lawd, gyferbyn â Mynydd Twr. Mae’r clogwyni geirwon hyn yn enwog am sawl rheswm, nid yn unig am eu hadar arbennig. Mae cerrig a daeareg drawiadol Ynys Lawd yn rhan o GeoMôn, Geoparc Byd-eang UNESCO, diolch i blygiadau a ffawtiau dramatig sy’n dyddio’n ôl bron i 600 miliwn o flynyddoedd.
Fymryn yn ddiweddarach, mae’n bosib y bydd ffans Roxy Music yn adnabod y creigiau miniog o glawr yr albwm Siren, o 1975, lle maen nhw’n serennu ochr yn ochr â’r fodel ac actores Jerry Hall.
Ewch yn ôl i Gaergybi a dilynwch yr A55/A5025 i’r gogledd am Lanfachraeth.
Ewch yn ôl ar hyd yr A5025 am filltir, gan droi i’r chwith i’r B5109 i Fodedern. Tua 0.5 milltir/0.8m wedi pasio’r pentref, trowch i’r chwith i is-ffordd a dilynwch yr arwyddion brown ar gyfer Siambr Gladdu Presaddfed (mae ‘na le parcio bach gyferbyn).
Yn sefyll mewn cae, mae’r pâr yma o gofebion ychydig fetrau ar wahân, sy’n awgrymu iddynt gael eu hadeiladu ar adegau gwahanol yn y cyfnod Neolithig. Y siambr ddeheuol sydd wedi goroesi’r milenia orau ac mae’n dal i ddal ei chapfeini mawr ar bedwar uniad unionsyth.
Mae’r siambr gladdu ym mhen deheuol Llyn Llywenan, llyn naturiol mwyaf Môn. Mae’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn yn gynefin i amrywiaeth o blanhigion dyfrol prin ac yn lle gwych i weld adar dŵr fel y chwiwell, yr hwyaden gopog, yr hwyaden llydanbig a’r hwyaden bengoch.